Cartref > Digwyddiadur > O'r Tarddiad i'r Tonnau
Gwybodaeth
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r artist Jess Balla wedi bod yn archwilio ein perthynas gyda'n afonydd a'u ecosystemau cysylltiol, o'u tarddiad i'r tonnau. Mae ei gwaith yn edrych ar ein cysylltiad gyda byd natur, a be sy'n effeithio'r cysylltiad.
Mae'r digwyddiad rhannu hwn yn dod â'r artistiaid, ecolegwyr a sefydliadau sy'n gweithio ar hyd llif yr afon i'r arfordir. Drwy dangosiadau gweledol, cyflwyniadau byr, a sgyrsiau anffurfiol, bydd y noson yn llifo rhwng creadigrwydd, cymuned ac ecoleg. Bydd yna groeso ichi ymlwybro a sgwrsio gyda'r amryw o ddangosiadau yn y noson rhannu rhyngweithiol ac amlddisgyblaethol hyn. Bydd yn gyfle i gwrdd â'r artistiaid a'r sefydliadau, rhannu syniadau a dathlu'r cysylltiadau sy'n rhedeg drwy'n amgylched.
Gyda: Jess Balla, Manon Awst, Rosie Farey, Rhodri Owen, The Wild Oyster Project, and North Wales Rivers Trust
Am ragor o wybodaeth ewch i: https://ballawaves.com/project...
Nos Fawrth 11 Tachwedd, 6.30pm
Stiwdio
