Cartref > Digwyddiadur > WiFi Wars - Interactive Comedy Game Show
Gwybodaeth
Mae gan Wifi Wars rhywbeth i bawb, gan gynnwys gemau teledu clasurol, posau geiriau, gemau fideo retro a gemau fideo modern, gan roi taith hwyliog drwy’r holl ffyrdd y gallwch gael hwyl!
Mae’r gynulleidfa gyfan yn cystadlu, fel timau ac yn unigol, mewn gemau, cwisiau a mwy fydd yn ymddangos ar eu ffonau a tabledi clyfar yn defnyddio technoleg record byd Guinness WiFi Wars, wedi ei ddatblygu yn Sefydliad Brenhinol mawreddog Llundain.
Cyflwynir gan y comediwr Steve McNeill (capten ar y rhaglen deledu boblogaidd (Dara O’Briain’s Go 8 Bit’) a Rob Sedgebeer (enillydd gwobr Chortle “Legen of Lockdown). Mae WiFi Wars yn sioe arobryn sydd yn wahanol i unrhyw beth arall. Wrth i dimau a chwaraewyr lwyddo a methu, mae stori unigryw pob sioe yn ymddangos, gyda rhai yn dod yn arwyr lleol newydd.
DEWCH A DYFAIS CLYFAR GYDA CHI (ffôn/tabled) I BOB CHWARAEWR
- rydych angen rhywbeth sydd â sgrin-cyffwrdd a porwr y we
Hefyd, gwnewch yn siwr bod digon o fatris yn y ddyfais gan y byddwch yn ei ddefnyddio trwy’r sioe, ond peidiwch â phoeni – nid yw’n defnyddio lot o fatri.
Ni fyddwch angen lawrlwytho yr app ymlaen llaw, byddwn yn sortio hynny ar ôl i chi gyrraedd.
Dydd Sadwrn 26 Medi, 3pm
Stiwdio
£12 i bawb
90 munud yn cynnwys egwyl
Addas i bawb dros 6 oed. Mae'r sioe yn hwyl i bawb ac nid dim ond i blant.
