Cartref > Telerau ac Amodau
Telerau ac Amodau
Cyffredinol
- Ar ôl i chi brynu tocyn, ni fyddwn yn rhoi ad-daliad oni bai bod y perfformiad yn cael ei ganslo.
- Mae'n bosib cyfnewid tocynnau a brynwyd am berfformiad arall ond ni sydd i benderfynu ynglŷn â hynny ac mae'n dibynnu ar y nifer sydd ar gael. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gellir cyfnewid tocynnau ar gyfer perfformiadau'n digwydd o fewn 5 niwrnod. Codir £1 fesul archeb am gyfnewidiadau.
- Ni ellir ail-werthu tocynnau am elw. Bydd gwneud hynny’n gwneud y tocyn yn annilys.
- Mae’n bosib y bydd angen prawf o gymhwyster ar gyfer tocynnau gostyngol i gael mynediad i berfformiad.
- Mae gennym hawl i newid prisiau tocynnau sydd heb eu gwerthu, a chyflwyno a thynnu gostyngiadau, cynigion arbennig a chonsesiynau.
- Gallwn newid y rhaglen a chael artistiaid eraill lle bo amgylchiadau'n gwneud hynny'n ofynnol.
- Ni ellwch recordio (naill ai sain neu fideo) unrhyw ran o unrhyw berfformiad oni awdurdodir chi'n benodol i wneud hynny.
- Rydym yn cadw’r hawl i wrthod mynediad.
Gostyngiadau
- Ar gyfer tocyn plentyn, rhaid i chi fod o dan 18 oed ar ddyddiad y perfformiad. Caiff plant dan 2 oed fynd am ddim.
- Ar gyfer tocyn myfyriwr, rhaid i chi fod mewn addysg lawn-amser ar ddyddiad y perfformiad.
- Ar gyfer tocyn pensiynwyr, rhaid i chi fod yn 60 oed neu hŷn ar ddyddiad y perfformiad.
- Caiff gofalwr sy'n dod gyda pherson anabl cofrestredig i berfformiad fynd am ddim.
- Mae gennym hawl i gyflwyno a dileu gostyngiadau. Efallai na fydd gostyngiadau ar gael ar gyfer pob perfformiad.
Cynigion Arbennig
- Mae’r cynigion yn amodol ar fod ar gael.
- Nid yw cynnig arbennig yn berthnasol ond i’r digwyddiad(au) a nodir yn glir yn y cynnig, ac nid yw’n cynnwys unrhyw gynnig na digwyddiad arall.
- Ni ellir defnyddio cynnig arbennig ochr yn ochr ag unrhyw gynnig arall, ac mae’n berthnasol i docynnau ar bris llawn, oni nodir yn wahanol.
- Ni ellir defnyddio’r cynnig hwn yn ôl-weithredol ar docynnau a brynwyd eisoes.
- Rhaid dewis pob tocyn sydd yn rhan o fwndel ar yr un pryd.
- Ni chynigir dewis ariannol amgen.
- Ni chynigir ad-daliad rhannol.
- Mae telerau ac amodau prynu safonol Pontio ar gyfer prynu, gwerthu a mynediad yn sefyll.