Cartref > Eich Ymweliad > Y Ganolfan
Y Ganolfan
Oriau Agor yr Adeilad
Dydd Llun - ddydd Sadwrn: 8.30am - 8.30pm
Dydd Sul: 12pm - 7pm
Oriau Agor Swyddfa Docynnau
Os ydych yn dymuno archebu tocyn dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, dyma'r oriau agor:
Dydd Llun i ddydd Sadwrn 10am - 7.30pm
Dydd Sul 12pm - 6pm
Cyfeiriad
Pontio, Prifysgol Bangor, Ffordd Deiniol, Bangor, LL57 2TQ
Am wybodaeth parcio cliciwch yma

Wedi ei rannu dros chwe llawr, Pontio yw canolfan celfyddydau ac arloesi newydd Prifysgol Bangor. Mae’r adeilad, wedi ei gynllunio gan y penseiri Grimshaw, yn gartref i theatr hyblyg maint canolig wedi ei henwi ar ôl Bryn Terfel, Stiwdio Theatr sy’n dal hyd at 120 o bobl, Sinema ddigidol sy’n dal 200 ac ystod eang o gyfleusterau ar gyfer myfyrwyr gan gynnwys cartref newydd i Undeb y Myfyrwyr a nifer o ofodau dysgu ac addysgu. Mae hefyd yn cynnig bwyd a diod ym mar Ffynnon ar Lefel 0 a chaffi Cegin ar lefel 2.
Mae Pontio yn cynnig pob math o adloniant saith diwrnod yr wythnos, o’r ffilmiau diweddaraf i gerddoriaeth a drama, gigs, sioeau plant, sioeau cabaret a llawer mwy.
Lefel 0
Ar Lefel 0 mae'r prif gyntedd. Yma ceir y Dderbynfa, y Swyddfa Docynnau a bar Ffynnon yn ogystal â'r drysau sy’n arwain at seddi llawr Theatr Bryn Terfel a'r Sinema 200 o seddi.
Hefyd ar y lefel hwn ceir yr ystafell gotiau, yr ardal gwefru sgwteri symudedd a man cadw coetsis babanod.
Os edrychwch i fyny byddwch yn gallu gweld yr holl ffordd drwy'r adeilad i Brif Adeilad y Brifysgol yn uchel ar y bryn. Mae ymdeimlad anhygoel o uchder yn y gofod agored helaeth hwn.

Lefel 1
Gallwch fynd yn y lifft neu ddringo'r grisiau i Lefel 1. Yma ceir y prif ddrysau i'r Sinema ac i Falconi 1 Theatr Bryn Terfel.
Gellir trawsnewid awditoriwm hyblyg Theatr Bryn Terfel o theatr draddodiadol 450 sedd gyda bwa prosceniwm, i theatr gron ac mae lle i 500 o bobl sefyll mewn gig. Dyma'r theatr gyntaf o'i bath yng ngogledd gorllewin Cymru.
Mae toiledau a chyfleusterau newid babis yn ogystal a thoiled gyda lle i newid wedi eu lleoli yma hefyd ar Lefel 1.

Lefel 2
Ewch i fyny i Lefel 2 a byddwch yn cyrraedd man agored braf arall.
Yma ar lefel 2 mae caffi Cegin, mynediad at Falconi 2 Theatr Bryn Terfel, y Stiwdio, y Bocs Gwyn a Darlithfa 2.
Mae'r Theatr Stiwdio yn cynnwys 120 o seddau ar gyfer digwyddiadau mwy agos-atoch, ac mae hefyd yn lleoliad delfrydol ar gyfer gweithgareddau cymunedol a chymdeithasau myfyrwyr.
Mae drysau gwydr yn arwain at y man perfformio awyr agored.

Lefelau 3- 5
Mewn ymateb i adborth myfyrwyr, creodd Undeb y Myfyrwyr 'Y Lolfa' ar lefel 3. Lle i fyfyrwyr ymlacio a dadflino o'u hastudiaethau. Mae angen cerdyn Prifysgol Bangor i fynd i mewn.
Lefel 4 yw cartref newydd Undeb Myfyrwyr Bangor. Mae yma swyddfeydd a chyfleusterau ar gyfer cyfarfodydd - mae'n golygu bod myfyrwyr yn rhan ganolog o Pontio.
Ar lefel uchaf Pontio ceir darlithfa fawr gyda lle i hyd at 450 ynghyd â dau fan dysgu cymdeithasol helaeth.
O Lefel 5, gallwch gerdded allan yn syth i Allt Penrallt, dim ond tafliad carreg o Brif Adeilad y Brifysgol.
