Cartref > Amdanom > Cenhadaeth
Cenhadaeth
Cenhadaeth Pontio yw creu rhaglen artistig o'r ansawdd uchaf sy'n arloesol, uchelgeisiol ac yn berthnasol i'n cymunedau. Yn Pontio rydym yn credu yng ngrym y celfyddydau i gael effaith gadarnhaol ar ein bywydau a bod gan bob un ohonom yr hawl i brofi'r celfyddydau.
Yn Pontio fe gewch:
- raglen artistig eang, o ddigrifwyr i opera siambr
- archwilio'r diwylliant Cymreig a'r iaith Gymraeg drwy'r celfyddydau, gan ddiffinio ac ailddiffinio ein hunaniaeth ddiwylliannol
- fywiogrwydd artistig yn treiddio drwy'r ganolfan
- cyfleoedd i bob oed a chwaeth, o sioeau i deuluoedd, gweithdai, digwyddiadau byw, ffilmiau a mwy
- cynnwys creadigol gwreiddiol trwy ddod â'r celfyddydau, y gymuned a'r brifysgol at ei gilydd mewn partneriaethau arloesol ac archwiliadol
- gartref i ddoniau ifanc a newydd a llwyfan i rannau eu gwaith
- feddwl yn rhyngwladol, gweithredu yn lleol
Nod Prifysgol Bangor, fel a nodir yn yr amcan strategol yw:
I wella cyfraniad y Brifysgol i ddatblygiad diwylliannol y rhanbarth, gan gynnwys drwy'r prosiect Pontio a rhaglenni eraill.






