Cartref > Cymryd Rhan > Gwirfoddoli
Gwirfoddoli
Mae Pontio yn ganolfan hynod brysur, gyda channoedd o ddigwyddiadau a dangosiadau bob blwyddyn. Mae angen tîm o wirfoddolwyr brwdfrydig sy’n cefnogi tîm Pontio i sicrhau bod profiad ein cynulleidfaoedd yn un positif.
Mae ein tîm o wirfoddolwyr dan ofal ein Tîm Blaen Tŷ Celfyddydau Pontio, a byddwch yn siŵr o ddod i'w hadnabod yn dda os ydych yn gwirfoddoli gyda ni. Mae nifer fawr o fuddion i wirfoddoli gyda ni, a byddwch yn cael cyflwyniad llawn a hyfforddiant cychwynol. Mae croseo i unrhyw un wirfoddoli gyda ni cyn belled eich bod dros 16 oed.

Beth yw'r buddion o wirfoddoli gyda Pontio?
- Mwynhau theatr byw a dangosiadau sinema – gan gofio eich bod yno i gynorthwyo drwy gydol y sioeau
- Cyflawni llwyddiant a boddhad bersonol
- Dysgu a datblygu sgiliau a chryfderau newydd a’u defnyddio i fod o fudd i’r gymuned ehangach
- Profiadau gwerthfawr
- Cynyddu hyder gan rhoi tro ar rhywbeth newydd
- Cyfarfod pobl newydd a bod yn rhan o gymuned
- Mwynhau!
- Gerida bersonol
- Digwyddiadau ymgysylltu gwirfoddoli unigryw megis teithiau cefn llwyfan, sgyrsiau a digwyddiadau
- Gall myfyrwyr Prifysgol Bangor dderbyn adnabyddiaeth am y sgiliau a’r gwerthoedd maent yn datblygu tra’n gwirfoddoli gyda ni; gall XP gael eu hawlio ar gyfer Gwobr Cyflogadwyedd Bangor
- Gall Canolfan Bedwyr gynnig hyfforddiant Iaith Gymraeg yn ogystal â chynnig sesiynau ar bolisïau iaith
Diddordeb?
Cysylltwch gyda'n tîm Blaen Tŷ i ddatgan diddordeb ac am ragor o wybodaeth
Ebostiwch: gwirfoddolwyr@pontio.co.uk
Ffoniwch: 01248 383828