Cartref > Eich Ymweliad > Hygyrchedd

Hygyrchedd


Mae Pontio yn lleoliad sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn ac mae gennym amrywiaeth o wasanaethau i wneud eich ymweliad yn brofiad pleserus.

Os oes gennych unrhyw ofynion mynediad, neu gwestiynau am eich ymweliad, cysylltwch â ni. Byddwn yn ceisio darparu ar gyfer ceisiadau bob amser ac rydym yn croesawu unrhyw adborth am ein darpariaeth hygyrchedd.

Sut i gysylltu 

E-bost: info@pontio.co.uk
Rhif ffôn: 01248 38 28 28

HYNT logo, yellow triangle pointing to the right on a black bachground, with black lettering

HYNT

Mwy

Blue parking logo on light blue background

Parcio

Mwy

White toilet logos on black background

Cyfleusterau a Gwasanaethau

Mwy

Audio Description logo on a yellow background

Darpariaeth i bobl ag amhariad ar y golwg

Mwy

International Symbol of access on a blue background

Darpariaeth i bobl â phroblemau symudedd

Mwy

British Sign language logo on a yellow background

Darpariaeth i bobl ag amhariad ar y clyw

Mwy

Sunflower on black background

Anableddau Cudd, Afiechydon Anweladwy ac Iechyd Meddwl

Mwy

Comedy and tragic theatre masks on blue background

Perfformiadau a Dangosiadau Hygyrch

Mwy

Ticket graphic on black background

Sut i Archebu Tocynnau

Mwy

Craidd Logo

CRAIDD

Mae Craidd yn gydweithrediad rhwng pum sefydliad yng Nghymru; Theatr Clwyd, Theatr Sherman, Celfyddydau Pontio, Theatr Torch, a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ei genhadaeth yw gwella cynrychiolaeth brif ffrwd i bobl fyddar, anabl a niwroamrywiol ledled Cymru. Mae hefyd yn anelu at ysgogi newid cadarnhaol yn y sefydliadau partner dan sylw yn ogystal ag yn y sector theatr ehangach.

Roedd cam cyntaf y cydweithrediad yn cynnwys archwiliad o bob sefydliad, sgyrsiau sector, hyfforddiant helaeth a diffinio map ffordd i’r 5 mlynedd nesaf.

Mae’r enw Craidd yn adlewyrchu'r uchelgais i sicrhau bod amcanion y bartneriaeth wrth wraidd yr holl waith o greu theatr.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am waith Craidd, cysylltwch â'r Cyfarwyddwr Newid Sara.Beer@craidd.cymru

IEITHOEDD

Mae holl staff Pontio yn siarad Cymraeg a bydd y stiwardiaid sy'n siarad Cymraeg yn gwisgo bathodyn yn dynodi hynny.  Mae llawer o’n staff a’n stiwardiaid yn siarad nifer o ieithoedd. 

DEFNYDDIO ARIAN PAROD

Mae Swyddfa Docynnau Pontio yn derbyn cerdyn ac arian parod. 

Os hoffech dalu am docynnau ag arian parod ond yn methu dod i'r swyddfa docynnau, ffoniwch y swyddfa docynnau a byddant yn gallu eich helpu.

Yn anffodus, am y tro, ni all Prifysgol Bangor dderbyn arian parod yn y mannau arlwyo yn adeilad Pontio.