Cartref > Perfformiadau a Dangosiadau Hygyrch
Perfformiadau a Dangosiadau Hygyrch
Mae perfformiadau a ffilmiau gyda disgrifiadau sain yn galluogi'r rhai sy'n ddall neu sydd ag amhariad ar y golwg i wrando ar sylwebaeth sy'n disgrifio'r set, y cymeriadau, yr ymadroddion a'r gweithredoedd ochr yn ochr â'r ddeialog, effeithiau sain ac unrhyw gerddoriaeth i helpu peintio darlun o'r hyn sy'n digwydd ar y llwyfan neu'r sgrin trwy sain.
Os oes gan ffilm ddisgrifiad sain, bydd ar gael pob tro y caiff y ffilm honno ei dangos. I ddigwyddiadau theatr byw, darperir disgrifiad sain gan y cwmnïau teithiol ac efallai na fydd ar gael i bob perfformiad.
Gallwch gasglu eich clustffonau o'r swyddfa docynnau.
Mae taith gyffwrdd yn caniatáu i aelodau'r gynulleidfa gyffwrdd ac archwilio rhai rhannau o'r set, y propiau a'r gwisgoedd cyn i'r sioe ddechrau er mwyn helpu peintio darlun o beth sydd ar y llwyfan, a'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio yn sylwebaeth y disgrifydd sain.
Weithiau byddwch yn cael cwrdd â rhai o'r actorion i ymgyfarwyddo â'u lleisiau.
Fel arfer, cynhelir teithiau cyffwrdd yn yr awditoriwm cyn y sioe, efallai y bydd rhaid i chi archebu tocyn ar wahân i gael lle ar daith gyffwrdd.
Mae perfformiadau gyda chapsiynau yn debyg i ffilm neu raglen deledu gydag isdeitlau ac eithrio mewn perfformiadau byw. Bydd y ddeialog yn ymddangos ar sgriniau capsiynau wrth i'r actorion siarad, ynghyd ag unrhyw eiriau caneuon neu effeithiau sain eraill.
Mae perfformiadau gyda chapsiynau yn ddefnyddiol i unrhyw un sy'n fyddar neu sydd ag amhariad ar y clyw ond gallant hefyd fod o fudd i bobl sydd ddim yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf, neu ddim yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf os yw'r sioe yn y Gymraeg, ac i ddysgwyr ieithoedd ddatblygu eu sgiliau. Gallant hefyd fod yn ddefnyddiol i ddeall acenion a thafodieithoedd penodol.
Mewn perfformiadau gyda dehongliad Iaith Arwyddion Prydain, bydd dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain yn dehongli'r sioe i aelodau byddar o’r gynulleidfa. Bydd hyn yn cynnwys y ddeialog, effeithiau sain, caneuon os oes rhai, mynegiant ac emosiwn i gyd-fynd â'r digwyddiadau ar y llwyfan. Fel arfer, bydd y dehonglydd yn sefyll ar ochr y llwyfan.
Bydd lleoliad y dehonglydd yn y theatr yn cael ei nodi ar dudalen we'r sioe.
Mae perfformiadau gyda dehongliad Iaith Arwyddion Prydain i aelodau'r gynulleidfa sy'n nodi eu bod yn fyddar neu sy’n dysgu Iaith Arwyddion Prydain.
Perfformiadau hamddenol yw perfformiadau neu ffilmiau lle mae'r rheolau a'r awyrgylch yn llawer mwy hamddenol. Gall hyn olygu bod aelodau'r gynulleidfa'n rhydd i fynd a dod o'r awditoriwm yn ôl yr angen, na fydd y goleuadau'n mynd yn hollol dywyll, efallai y bydd effeithiau sain a cherddoriaeth yn dawelach, efallai y bydd rhai goleuadau ac effeithiau arbennig yn cael eu dileu er mwyn lleihau'r effaith synhwyraidd ac, mewn rhai achosion, efallai y bydd newidiadau i'r sgript.
Mae perfformiadau a ffilmiau hamddenol yn aml yn cael eu cysylltu ag aelodau'r gynulleidfa sy’n awtistig neu sydd ag anabledd dysgu ond gallant hefyd fod o fudd i unrhyw un sydd â thiciau neu sy'n gwneud synau anwirfoddol, pobl sy'n byw gyda dementia ac Alzheimer's, unrhyw un ag anhwylderau prosesu synhwyraidd neu gyfathrebu, ac unrhyw un sy’n dioddef o orbryder neu ofnau sy'n ymwneud â'r tywyllwch, synau uchel a thorfeydd.
Unrhyw un a allai deimlo dan straen mawr neu deimlo gorlwytho synhwyraidd mewn theatr neu sinema. Hyd yn oed i bobl a allai fod angen sefyll a cherdded o gwmpas yn amlach oherwydd cyflwr sy’n achosi poen neu i bobl sy’n gorfod mynd i'r toiled yn amlach.
Mae croeso i aelodau'r gynulleidfa wisgo offer diogelu clyw, sbectol ar gyfer sensitifrwydd golau, a dod â theganau synhwyraidd neu eitemau cysur, p'un a yw'r perfformiad neu'r ffilm yn berfformiad hamddenol penodol ai peidio.
