Cartref > Cymryd Rhan > BLAS

BLAS


BLAS yw prosiect cyfranogol ieuenctid Pontio sy’n cynnig profiadau celfyddydol i blant a phobl ifanc. Mae sawl cangen i waith BLAS, yn gyntaf ein gweithdai drama wythnosol i blant o flwyddyn 3 hyd at blwyddyn 13. Rydym yn cynnal prosiectau iechyd a lles gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion, yn gweithio gyda pharteriaid amrywiol yn y gymuned a chydag ysgolion yn ogystal â'n rhaglen Tiwtoriaid Dan Hyfforddiant.

Lansiwyd BLAS yn Ionawr 2013 yn dilyn cais llwyddiannus am arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae BLAS wedi mynd o nerth i nerth yn dilyn nifer o brojectau llwyddiannus gydag ymarferwyr ysbrydoledig a phlant a chymuned brwdfrydig Bangor yn ysgrifennu llyfrau, creu gweithiau celf, creu monologau am unigolion Bangor, dosbarthiadau dawns, ymchwil academaidd, sioeau tymhorol, nosweithiau lansio a llawer iawn mwy.

Rydym yn gweithio gyda nifer fawr o unigolion a sefydliadau gan gynnwys: Annedd Ni, Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Clinic Plant yn Uned Heulwen, GISDA, ADRA, Llwyddo’n Lleol, Ysgol Feddygol Gogledd Cymru a llawer iawn mwy.

Os ydych yn awyddus i gydweithio gyda ni ar brosiect – peidiwch ag oedi i gysylltu gyda ni.

MARED ELLIW HUWS

Mared, Cydlynydd Datblygu'r Celfyddydau Pontio sy'n rhedeg project BLAS.

Mae BLAS yn cael ei hariannu gan Prifysgol Bangor a Chyngor Celfyddydau Cymru yn ogystal ag ariannwyr eraill - gweler manylion am brojectau penodol. Os hoffech gyfrannu tuag at ein gwaith neu noddi project, cysylltwch gyda ni!

Criw o bobl ar lwyfan i gyd yn gwisgo gwisgoedd fansi

GWEITHDAI DRAMA WYTHNOSOL

Gweithdai drama a pherfformio wythnosol i ddatblygu hyder, presenoldeb llwyfan, sgiliau perfformio ac i fwynhau!

Mwy

Gwraig hyn yn eistedd mewn cadair yn siarad â pherson ifanc

IECHYD A LLES

Mae gan BLAS nifer o brojectau iechyd a lles, gan weithio gyda nifer fawr o bartneriaid ardraws Gogledd Cymru.

Mwy

Plentyn ifanc yn clapio ac yn gwisgo het ddu

Y GYMUNED

Cymerwch gip ar yr hyn sydd gennym ymlaen yn y gymuned ar hyn o bryd

Mwy

Dwy ferch ifanc yn siarad â dyn hyn

YSGOLION

Ydych chi'n chwilio am weithdy drama neu asiant greadigol ar gyfer eich ysgol? Cysylltwch gyda Mared ar ebost: m.huws@bangor.ac.uk i drafod beth y gallwn ei gynnig ichi.

Grwo o bobl ifanc yn perfformio Light Princess  ar y llwyfan

Tiwtoriaid Dan Hyfforddiant

Dewch i wybod mwy am ein project Tiwtoriaid dan Hyfforddiant, sy'n hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o ymarferwyr celfyddydol.

Ein Tiwtoriaid