Cartref > BLAS - Iechyd a lles

BLAS - Iechyd a lles


Mae BLAS yn gweithio'n galed i gefnogi ein cymunedau drwy'r celfyddydau - mae ein gweithdai Caffi Babis, Dawnsio ar gyfer Parkinsons a mwy yn rhoi gofod diogel ichi ymuno â ni mewn gweithdy all fod o fudd ichi.

Logo Caffi Babis, llythrennau gyda siapiau ac anifeiliaid yn creu llythrynnau

Caffi Babis

Mae Caffi Babis yn sesiwn rydym yn eu cynnig i rieni newydd a’u babis er mwyn cyfarfod rhieni eraill, yn ogystal ag ymlacio gyda'ch babi am gyfnod. 

Gweithdai

Criw o bobl yn eistedd ar cadeiriau yn ymestyn ei breichiau i'r awyr

Dawnsio ar gyfer Parkinsons

Mae dosbarthiadau Dawnsio ar gyfer Parkinson’s yn hwyliog ac anffurfiol. Rydym yn cynnal sesiynau wythnosol, ac mae croeso ichi ymuno gyda ni.

Sesiynau

EFO DAD

Mae Project Efo Dad yn ymateb i ymchwil sy’n dangos fod angen mwy o gefnogaeth i dadau yn eu rôl magu. Rydym eisiau newid y syniad traddodiadol o ddigwyddiadau “rhiant a babi”, gan greu gofod lle mae tadau’n cael bod yn dadau, siarad â thadau eraill, a chael cefnogaeth ymarferol ac emosiynol. Nod y prosiect yw meithrin cymuned sy’n cefnogi lles ac iechyd meddwl dynion, tra’n dathlu’r profiad o fod yn dad.

Fel rhan o’r gwaith, mae’r prosiect hefyd yn cynnwys ymchwil i weld effaith sesiynau i dadau’n unig, ac i ddeall yn well beth sy’n angenrheidiol mewn gofod a grëir ar gyfer tadau yn unig.

Father and son playing with colourful materials

Partneriaeth BLAS ac Ysgol Feddygol Gogledd Cymru

Mae BLAS ac Ysgol Feddygol Gogledd Cymru wedi sefydlu partneriaeth gyffrous er mwyn integreiddio Addysg Feddygol sy’n Seiliedig ar y Celfyddydau, Straeon, Meddygaeth Naratif ac Empathi i raglenni hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd y dyfodol. Yn ogystal, mae Mared a Nia yn cydweithio i hyrwyddo’r neges o fewn y GIG ynghylch cryfder a dylanwad y celfyddydau.

Image of a conference with people sat around round tables