Cartref > Digwyddiadur > Dawnsio ar gyfer Parkinson's - sesiwn wythnosol ar ddydd Mawrth
Gwybodaeth
Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
Dawnsio ar gyfer Parkinson's
Mae dosbarthiadau Dawnsio ar gyfer Parkinson’s yn hwyliog ac anffurfiol.
Profwyd bod dawns yn datblygu hyder a chryfder, wrth leddfu rhai symptomau bob dydd cyfranogwyr. Mae dosbarthiadau yn greadigol ac yn hyrwyddo teimladau o ryddid rhag cyfyngiadau corfforol a chymdeithasol Parkinson’s.
Rydym yn hwb Cysylltiedig ar gyfer rhaglen Dance for Parkinson's, English National Ballet.
Mae rhaglen Dawns ar gyfer Parkinson’s Bale Cenedlaethol Lloegr wedi bod yn rhedeg ers 2008, ac mae dosbarthiadau’n cael eu cynnal yn Llundain, yn ogystal ag yn genedlaethol mewn partneriaeth â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, DanceEast yn Ipswich, MDI yn Lerpwl a Chyngor Dinas Rhydychen.
Rydym yn falch o fod yn rhan o aelodau Dance for PD, i gefnogi Partneriaeth a Phobl yn Dawnsio gan Dawns ar gyfer Parkinson’s ac i gael cysylltiad â Parkinson’s UK.
Mae rhaglen genedlaethol Dawns ar gyfer Parkinson’s ENB yn mwynhau cysylltiadau agos gyda Parkinson’s UK a’r Gymdeithas Clefyd Parkinson’s Ewropeaidd EPDA.
Ar ddydd Mawrth, 1.30pm - 3pm
Bocs Gwyn, Pontio
£3.50 neu'r tymor cyfan am £35