Photo of Tomos Williams playing the trumpet

Cyngerdd Jazz: Williams / Thorne / Holmes

Cartref > Digwyddiadur > Cyngerdd Jazz: Williams / Thorne / Holmes

Gwybodaeth


Mae Williams | Thorne | Holmes yn driawd newydd, cyffrous dan arweiniad trwmped. Mae fformat y triawd wedi bod yn fformat sefydledig ers tro byd, ond mae'r band hwn yn gwthio ffiniau jazz traddodiadol trwy ddod â dylanwadau o gerddoriaeth werin Gymreig, minimaliaeth a jazz ysbrydol i mewn. 

Mae Tomos Williams (Trwmped) wedi gweithio'n rhyngwladol gyda'r grŵp cyfuno Indo-Gymreig Khamira, wedi ysbrydoli cynulleidfaoedd gyda'i brojectau 'Cwmwl Tystion' sy'n ysgogi'r meddwl ac wedi ailddychmygu cerddoriaeth werin draddodiadol Gymreig gyda 'Burum'. Mae Aidan Thorne (Bas Dwbl) wedi gweithio gyda Williams ers blynyddoedd; mae'n arwain ei fand arloesol ei hun 'Duski' yn ogystal ag archwilio tirwedd Cymru mewn projectau deuawd gyda'r gitaryddion Toby Hay a Jason Ball. Mae Matt Holmes yn seren newydd ac yn un o'r enwau i gadw llygad amdanynt yn sîn jazz y Deyrnas Unedig. Mae Matt yr un mor gyfforddus yn perfformio mewn grwpiau bach neu'n arwain bandiau mawr, yn cyfansoddi cerddoriaeth newydd neu berfformio caneuon safonol. Mae wedi rhannu'r llwyfan gyda llawer o gantorion jazz mawr fel Hermeto Pascoal a Tony Kofi ac wedi teithio'n rhyngwladol gyda'r delynores Alina Bzhezhinska.

Nos Fercher 4 Mawrth, 7.30pm

Stiwdio

£15

Adolygiadau

“Tomos Williams... consolidates his reputation as one of the most restlessly creative and seriously gifted musicians in Wales...Williams’ trumpet work now similarly speaks of serious accomplishment and range but also of openness to experiment.”

Nation.cymru

“Aidan Thorne’s cascading notes on the bass were enough to give you pause, make you hold your breath. ”

Nation.cymru

“an unforgettable musical experience”

Ian Mann, Jazzmann Blog