Caffi Babis logo

Caffi Babis - dydd Gwener cynta'r mis

Cartref > Digwyddiadur > Caffi Babis - dydd Gwener cynta'r mis

Gwybodaeth


Siwan Llynor ac Angharad Harrop

Mae Caffi Babis yn sesiwn newydd rydym yn eu cynnig i rieni newydd a’u babis.

Dyma awren greadigol yng nghwmni Siwan Llynor ac Angharad Harrop sy’n rhoi’r cyfle i rieni newydd gyfarfod rhieni eraill, yn ogystal ag ymlacio gyda’ch babi am gyfnod. Awren sy’n dod â rhieni ynghyd, mewn awyrgylch diogel. Bydd pob sesiwn yn para tua tri chwartrer awr a chyfle i gymdeithasu ar ddiwedd pob sesiwn hefyd.

Mae’r sesiwn yn fwyaf addas i blant hyd at 24 mis oed, ond yn amlwg, mae croeso i blant hŷn ymuno gyda chi hefyd.

Dim ond un tocyn sydd ei angen ar gyfer oedolyn a phlentyn

10am 

Stiwdio 

3 Hydref
7 Tachwedd
5 Rhagfyr

£4.50