Cartref > Digwyddiadur > Cwmni Mega: Gwion bach a Ceridwen y wrach
Gwybodaeth
Mae Gwion bach yn fachgen direidus, chwilfrydig... ac yn methu stopio gofyn cwestiynau! Pan gaiff swydd yn
troi pot hud Ceridwen, mae'n rhoi cant y cant-ond dim ond un camgymeriad bach sydd ei angen i newid
popeth.
Pan aiff tri dropyn o hud i'r geg anghywir, mae helfa wyllt yn dechrau gyda gwrach bwerus, chwaer
hunanfalch, brawd anniben, ac assistant sydd eisiau dianc!
Yn llawn hiwmor, hud a helyntion
Cymeriadau lliwgar a straeon doniol
Perffaith i'r teulu cyfan
A all un camgymeriad newid tynged pawb?
Beth bynnag fydd y canlyniad, bydd y daith yna'n llawn peryglon, ond llawer mwy o chwerthin ac yn profi
unwaith bod calon hardd yn llawer mwy prydferth na gwyneb selffi!
Dewch gyda ni ar antur Gwion a gweddill y cymeriadau lliwgar dros y Nadolig hwn!
Dydd Llun 7 - Dydd Gwener 11 Rhagfyr
10am + 12.30pm
Theatr Bryn Terfel
Hyd y sioe:
1 awr 15 munud (Dim egwyl)
10am - 11.15am
12.30pm - 1.45pm
Tocynnau: £13
