Cartref > Eich Ymweliad > Sut i Archebu
Sut i Archebu
Dros y Ffôn
Gall archebion i ddigwyddiadau Pontio gael eu gwneud dros y ffôn lle y dynodir ar: 01248 38 28 28. Gweithredir ein llinell docynnau'n gwbl ddwyieithog.
Llun - Sadwrn: 10am - 7.30pm
Sul: 12pm - 6pm
Wyneb yn Wyneb
Gellir prynu tocynnau ar gyfer digwyddiadau o'r Swyddfa Docynnau yn Pontio.
Llun - Sadwrn: 10am - 7.30pm
Sul: 12pm – 5.30pm
Ar-lein
Mae modd archebu tocynnau ar gyfer digwyddiadau Pontio.
Mae ein gwefan ar-lein 24/7. Ar hyn o bryd, ni allwch archebu tocyn ar-lein os oes angen sedd cadair olwyn arnoch, rydym yn gobeithio gallu darparu'r gwasanaeth hwn yn fuan iawn.
E-bost
Anfonwch e-bost i info@pontio.co.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech archebu tocynnau (oherwydd gofynion diogelu data ni allwch dalu am docynnau trwy e-bost)
Defnyddwyr Cadair Olwyn
Cysylltwch â'r swyddfa docynnau dros y ffôn, e-bost neu yn y cnawd i archebu lle i ddefnyddiwr cadair olwyn. Byddwch yn gallu archebu ar-lein yn y dyfodol agos.
Tâl Post
Ni fydd ffi yn cael ei godi wrth archebu tocynnau, ond bydd tâl post o £1 yn cael ei ychwanegu pe baech angen i ni yrru'ch tocynnau drwy'r post. Er mwyn sicrhau bod tocynnau sydd angen eu postio yn cyrraedd mewn pryd, bydd rhaid eu harchebu o leiaf 10 diwrnod ymlaen llaw. Wedi hyn, bydd pob tocyn sydd wedi'i archebu o flaen llaw ar gael i'w casglu wrth y drws.
Ysgolion
I drafod archeb ysgol cysylltwch â Sandra Hughes-Jones ar s.hughes-jones@bangor.ac.uk neu 01248 383 892
Archebion ar gyfer Grwpiau
Rydym yn darparu ar gyfer grwpiau, ac ar brydiau fe allwn gynnig gostyngiadau gwych. Cysylltwch â'n Swyddfa Docynnau am fwy o wybodaeth: 01248 38 28 28.
Rydym yn argymell eich bod yn cyrraedd oddeutu 30 munud cyn digwyddiadau.
Mae pob archeb yn ddarostyngedig i'r telerau ac amodau safonol.
