Cartref > Beth sydd ymlaen > Celf
Celf
Mae gofodau cyhoeddus Pontio yn gartref i weithiau parhaol o gelf cyhoeddus gan artistiaid o Gymru a rhai rhyngwladol yn ogystal ag arddangosfeydd dros dro, gosodiadau a gwaith digidol sy'n ymateb i’r rhaglen artistig.
Mae’r gymuned leol yn chwarae rhan bwysig yn ein rhaglen, gyda phrosiectau ar y cyd ag ysgolion a grwpiau cymunedol i’w gweld yn ein gofodau'n rheolaidd.
Gyda ffocws hefyd ar brosiectau rhyng-ddisgyblaethol, rydyn ni’n plethu’r celfyddydau gweledol gydag ymchwil mewn amryw feysydd, gan gydweithio'n gyson ag adrannau gwahanol Prifysgol Bangor.
Mae ein nosweithiau ‘Ciosg Celf’ yn lwyfan newydd i artistiaid lleol ddod at ei gilydd i berfformio, boed yn gelf, barddoniaeth, cerddoriaeth neu gyfrwng o’u dewis. Cysylltwch â ni os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn un o’r nosweithiau yma.