Cartref > Pethau i'w Gwneud > Celf > Newid Golau - Jessica Lloyd-Jones
Newid Golau - Jessica Lloyd-Jones
Jessica Lloyd-Jones - Newid Golau
Comisiwn Celf Gyhoeddus
Mae Jessica Lloyd-Jones yn cyfuno celf, gwyddoniaeth a thechnoleg wrth iddi archwilio perthynas y deunydd a'r prosesau gyda golau, gan greu gweithiau celf a gosodiadau sy'n aml yn ein hannog i brofi'r byd mewn ffordd wahanol.
Yn ystod Haf 2016 ymgymerrodd Jessica â chyfnod o ymchwil yn Pontio, yn treialu syniadau ar gyfer gosodiadau ac ymyraethau sy’n defnyddio golau o fewn y gofodau cyhoeddus. Fe wnaeth y cyfnod yma o ymchwil yn llywio datblygiad gosodiadau celf gyhoeddus fwy parhaol ar gyfer Pontio - a fydd yn cyfrannu tuag at awyrgylch, hunaniaeth a hyfrydwch yr adeilad.
I gyd-fynd â Gŵyl Wyddoniaeth Bangor ymunwch â Jessica i weld pob un o'r gweithiau celf cyhoeddus newydd yn eu lle a chael clywed beth oedd yr ysbrydoliaeth a'r broses greadigol y tu ôl i bob darn. Ceir arddangosfa dros dro hefyd yn y cistiau gwydr ar Lefel 0 yn dangos rhai o'r prosesau ymchwil a datblygu a ddefnyddiwyd.
Mae Jessica yn byw yn Llangollen; mae gweithiau lleoliad-benodol blaenorol yn cynnwys gosodiad golau yng Nghanolfan Grefft Rhuthun, Rhuthun a goleuo pensaernïol ymatebol ym Mhlas Heli, Pwllheli.
Cyllidir elfen celf gyhoeddus Pontio gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Phrifysgol Bangor.
