Cartref > Beth sydd ymlaen > Sinema

Sinema


Mae rhywbeth i bawb yn Sinema Pontio. Gellir gweld yr holl ddangosiadau ar y dudalen hon, o'r blocbystyrs diweddaraf i'r ffilmiau annibynnol i'r clasuron. Porwch drwyddynt, sylwch ar y cynigion arbennig a dewch yma i fwynhau ac ymlacio o flaen y sgrin fawr. 

Dangosiadau Hamddenol / Isdeitlau / Disgrifiadau Clywedol

Mae'r dangosiadau hamddenol yn agored i bawb ond yn croesawu pobl fydd yn elwa o ddangosiad mwy hamddenol. Gall y gynulleidfa fynd a dod fel y mynnwch a bydd y golau ymlaen yn isel a'r sain wedi’i droi yn îs.

Rydym yn falch o gynnig dangosiadau gydag isdeitlau Saesneg. Chwiliwch am y gair (Subtitled) yn y rhestr.

Mae Disgrifiadau Clywedol Is-goch (AD) ar gael ar gyfer nifer o ffilmiau, ewch i dudalen y ffilm i wirio.

Llun o'r Sinema o'r top yn edrych i lawr