Cartref > Eich Ymweliad > Cwestiynau Cyffredinol
Cwestiynau Cyffredinol
Os ydych chi'n ddefnyddiwr presennol:
I fewngofnodi i'ch cyfrif, cwblhewch y camau canlynol:
- Cliciwch ar y botwm 'Fy Nghyfrif' a rhowch eich enw defnyddiwr yn y blwch testun 'Enw Defnyddiwr'.
- Rhowch eich cyfrinair yn y blwch testun 'Cyfrinair'. Awgrym: Mae cyfrineiriau'n sensitif i lythrennau mawr a bach (sy'n golygu nad yw PASSWORD, PaSsWoRd a password yr un peth). Os na allwch gofio'ch cyfrinair, cliciwch y ddolen 'Wedi anghofio'ch cyfrinair?'.
- Cliciwch y botwm Mewngofnodi.
Pan yn mewngofnodi, efallai y gofynnir i chi newid eich cyfrinair. Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at yr adran Newid Cyfrinair.
Os ydych chi'n ddefnyddiwr newydd:
Cliciwch y botwm 'Fy Nghyfrif' yna'r botwm 'Creu cyfrif newydd' ar waelod y dudalen a chwblhewch y dudalen gwybodaeth cyfrif. Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at yr adran Creu Cyfrif.
Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair:
Cliciwch y ddolen 'Wedi anghofio'ch cyfrinair? a chwblhewch y wybodaeth i gael eich cyfrinair wedi'i e-bostio atoch. Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at yr adran Anghofio Cyfrinair.
I newid eich cyfrinair, cwblhewch y camau canlynol:
- Rhowch eich cyfrinair cyfredol yn y blwch testun Cyfrinair Cyfredol.
- Rhowch eich cyfrinair newydd yn y blwch testun Cyfrinair Newydd. Awgrym: Mae cyfrineiriau'n sensitif i lythrennau mawr a bach (sy'n golygu nad yw CYFRINAIR, CyFrinAir a cyfrinair yr un peth). Efallai y bydd angen i'ch cyfrinair newydd gynnwys nifer penodol o gymeriadau, llythrennau mawr a/neu fach, rhif, a/neu symbol. Os nad yw eich cyfrinair yn bodloni'r gofynion, byddwch yn derbyn gwall yn dweud wrthych beth sydd ar goll.
- Cadarnhewch eich cyfrinair newydd trwy ei deipio eto yn y blwch testun Aildeipio Cyfrinair Newydd.
- I roi eich cyfrinair newydd ar waith, cliciwch y botwm Newid Cyfrinair.
Cliciwch y botwm 'Fy Nghyfrif' yna'r botwm 'Creu cyfrif newydd' ar waelod y dudalen a chwblhewch y dudalen gwybodaeth cyfrif.
Mae meysydd wedi'u marcio â seren goch (*) yn feysydd gofynnol.
Pan fyddwch wedi llenwi eich gwybodaeth, cliciwch y botwm Creu. Byddwch yn cael eich gwybodaeth mewngofnodi mewn blwch, ysgrifennwch y wybodaeth honno i lawr mewn lle diogel.
Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair, nodwch eich Enw Defnyddiwr a'ch Cyfeiriad E-bost yna cliciwch y botwm Adfer Cyfrinair. Bydd eich cyfrinair yn cael ei ailosod ac yna'n cael ei e-bostio atoch (edrychwch yn eich ffolder 'junk' os nad yw'n ymddangos yn eich inbox). Pan fyddwch yn mewngofnodi gyda'ch cyfrinair dros dro, gofynnir i chi greu cyfrinair newydd.
Mae’r canlyniadau chwilio’n dod ar ffurf rhestri o berfformiadau ac eitemau perthnasol eraill sy’n cyfateb i’ch meini prawf. Cliciwch ar y ddolen Prynu berthnasol i gychwyn y broses o brynu seddi. Bydd y perfformiadau’n cael eu rhestru yn ôl cod lliwiau sy’n dangos pa rai sydd â seddi ar gael. Os oes gormod o berfformiadau neu eitemau i’w dangos, bydd y dolenni Nesaf a Blaenorol yn ymddangos i’ch helpu i ddewis y perfformiad neu’r eitem sydd ar gael.
Byddwch yn gweld testun ar waelod y dudalen sy’n dangos faint o docynnau sydd ar gael o hyd i’r gwahanol berfformiadau a bwndeli.
I fireinio’r rhestr o berfformiadau ac eitemau sydd ar gael, gallwch ddefnyddio’r nodweddion chwilio sydd i’w gweld ar dop y sgrin. Os ydych yn chwilio am berfformiad neu eitem neilltuol, teipiwch enw llawn neu ran o enw’r perfformiad, yr eitem neu’r neuadd yn y blwch Chwilio am Ddigwyddiad, yna cliciwch y botwm Dechrau. Gallwch hefyd deipio dyddiad neu floc o ddyddiadau er mwyn mireinio’ch canlyniadau ymhellach.
Sut mae Hidlo’r Canlyniadau Chwilio
Mae’r tair dolen Hidlo’r Math, Hidlo’r Mis a Hidlo’r Neuadd sydd i’w gweld ar ochr chwith y dudalen yn gyfle i chi gyfyngu ar y rhestr o ganlyniadau. Gallwch gyfuno’r tair dolen yma mewn unrhyw ffordd. Pan fyddwch wedi rhoi hidlydd ar waith, bydd seren i’w gweld wrth ymyl ei enw. I glirio’r hidlydd, cliciwch ar y ddolen Clirio’r Hidlydd Mathau.
Ar ochr chwith y dudalen byddwch hefyd yn gweld calendr sy’n rhestru perfformiadau’r mis presennol. I chwilio am berfformiadau gwahanol, dewiswch fis arall o’r gwymplen. Gallwch hefyd ddefnyddio’r saethau (<< a >>) i symud o fis i fis.
Os oes cod hyrwyddo gennych, gallwch ei deipio yn y bocs Cod Hyrwyddo sydd ar y sgrin Prynu a chlicio’r botwm Cyflwyno Cod er mwyn mynd at eitemau na fyddai fel arall ar gael. Byddwch yn gweld yr eitemau cysylltiedig yn y rhestr.
Dilynwch y camau sy’n dilyn er mwyn prynu Talebau Rhodd:
- Dewiswch y ddolen Talebau Rhodd o’r bar llywio.
- Chwiliwch am y dystysgrif rodd neu’r cerdyn rhodd rydych yn awyddus i’w brynu.
- Cliciwch ar y ddolen gysylltiedig Prynu.
- Dewiswch nifer yr eitemau rydych yn awyddus i’w prynu.
- Os yw gwerth y dystysgrif neu’r cerdyn wedi cael ei osod yn barod neu os ydych yn awyddus i ddewis un o’r gwerthoedd penodol eraill sydd ar gael, dewiswch y botwm radio sydd wrth ymyl y dystysgrif/cerdyn rhodd.
- Os nad yw gwerth y dystysgrif neu’r cerdyn wedi cael ei osod yn barod neu os ydych yn awyddus i ddewis gwerth gwahanol (os oes un ar gael), dewiswch y botwm radio sydd wrth ymyl y maes gwag. Teipiwch yn y maes y swm rydych am ei ddewis.
- Gallwch hefyd wneud eich tystysgrif/cerdyn rhodd yn fwy personol drwy ychwanegu enw’r sawl rydych yn bwriadu ei anfon ato, a neges bersonol at yr unigolyn hwnnw.
- Cliciwch y botwm Ychwanegu at Archeb i ychwanegu’r dystysgrif/cerdyn rhodd at eich basged siopa.