Photo of a woman in a harness flying and other climbing a wall

Hedfan am Hanner Dydd - bob yn ail ddydd Sul

Cartref > Digwyddiadur > Hedfan am Hanner Dydd - bob yn ail ddydd Sul

Gwybodaeth


Vertical Dance Kate Lawrence a Pontio

Hedfan am Hanner Dydd

Sesiwn hwyliog a chyfle i roi tro ar ddawnsio awyrol. Dechreuwn gydag ychydig o gynhesu hawdd, yna fe fyddwch yn ceisio sefyll a neidio oddi ar lawr fertigol gan ddefnyddio harnais o gwmpas eich canol. Byddwch yn cael eich tywys drwy symudiadau syml, ac yna fe gewch chi hedfan!

Gwisgwch ddillad cyfforddus sy’n dynn o gwmpas eich canol a thop eich coesau.

Oed: 16+
Dim one lle i 12 sydd ar gael.
Does dim angen profiad

12.30pm - 1.30pm

Stiwdio

£6.50 am 1 sesiwn