three people holding a human figure puppet

Hijinx: Meet Fred

Cartref > Digwyddiadur > Hijinx: Meet Fred

Gwybodaeth


Hijinx, ar y cyd â Blind Summit, yn cyflwyno Meet Fred

Ddegawd yn ôl, heriodd pyped dwy droedfedd y byd – ac mae’n dal i ymladd.

Ar ôl teithio i 20+ o wledydd a phlesio miloedd o gynulleidfaoedd, mae Meet Fred yn dychwelyd i’r Deyrnas Unedig am daith y 10 mlwyddiant. Mae’r cynhyrchiad tywyll o ddoniol hwn, a dderbyniodd ganmoliaeth y beirniad, yn dilyn Fred, pyped o ddefnydd sy’n ceisio byw bywyd cyffredin–cael gwaith, cariad, bod yn rhan o gymdeithas. Ond gan fod ei Lwfans Byw Pypedau dan fygythiad, mae byd Fred yn troelli allan o reolaeth. Sut allwch chi gadw eich annibyniaeth pan fydd y system yn rheoli’r cortyn?

Gyda ffraethineb crafog, dychan gwleidyddol miniog, ac eiliadau o dynerwch annisgwyl, mae Meet Fred yn gomedi na ddylech ei cholli sydd wedi canu cloch gyda chynulleidfaoedd ar draws y byd. Wedi ei chreu gan y cwmni theatr cynhwysol Hijinx, mae’r sioe yn cynnwys cast disglair o berfformwyr gydag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth a heb anableddau, y mae eu profiad bywyd yn rhoi dyfnder a dilysrwydd i ymdrech Fred.

Yn dathlu 10 mlynedd o wneud i gynulleidfaoedd chwerthin, rhyfeddu ac ailfeddwl am y byd o’u cwmpas, mae Meet Fred yr un mor bwysig a pherthnasol heddiw ag erioed.

Nos Iau 26 Chwefror, 7.30pm

Stiwdio

£15

Canllawiau Oedran: Argymhellir 14+, yn cynnwys iaith gref, themâu i oedolion a phypedau noeth.

Hyd y sioe: 80 munud heb egwyl.

Capsiynau Cymraeg a Saesneg

Adolygiadau

“Rhyfeddod gwirioneddol... gwylio hanfodol i bobl a phypedau ym mhobman.” – Total Theatre