Cartref > Digwyddiadur > Leila Navabi's RELAY
Gwybodaeth
Yn dilyn ei sioeau a werthodd allan yng ngŵyl y Fringe Caeredin yn 2025, mae'r awdur a'r rebal amlddisgyblaethol Leila Navabi yn cyflwyno Relay.
Gan fynd â'r gynulleidfa am dro hunangofiannol; mae Leila'n defnyddio pync-roc, stand-yp ac animeiddio hynod ddoniol i esbonio sut y ceisiodd hi a'i phartner gael babi gartref gyda sberm eu ffrind gorau hoyw - dim ond misoedd ar ôl cael gwybod ei bod hi'n 'debygol o fod yn anffrwythlon' yn 24 oed.
Mae'r darn yn gerdd i'r amgen, yn edrych ar y teulu yr ydyn ni’n ei ddewis ac yn ddathliad i gymunedau Cwiar. Drwy’r gomedi gerddorol pync-roc hon mae Leila’n ymchwilio i gariad, anghydraddoldeb, uchelgais ac efallai’n bwysicaf oll, y llawenydd a’r anhrefn sy’n dod o greu teulu ar eich telerau eich hun.
Mae'r gwaith yn cael ei gefnogi gan TEAM Collective Cymru gyda chyllid a chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Nos Iau 5 Chwefror, 7.30pm
Stiwdio
Safonol: £14.50
Dros 60: £12.50
Myfyrwyr: £11
Oedran: 14+
