Cartref > BLAS - Cymuned
BLAS - Cymuned
Mae nifer fawr o brojectau yn rhedeg ar unwaith drwy gydol y flwyddyn gan BLAS, gan weithio gyda nifer fawr o bartneriaid amrywiol. Darllenwch isod am rai o'r projectau sydd gennym ar fynd ar hyn o bryd.
Uned Heulwen
Mae’r prosiect hwn yn gweithio gyda staff a defnyddwyr Uned Heulwen yn Ysbyty Gwynedd i roi profiadau creadigol yn yr ystafell aros i leihau straen ac yn gwneud ymweliadau’n fwy cadarnhaol. Trwy weithgareddau celf, cerddoriaeth, ymweliad Sion y ci a sgyrsiau anffurfiol yn yr ystafell aros, mae’r plant a’u teuluoedd yn teimlo’n fwy parod ar gyfer eu apwyntiad, ac mae’r uned yn dod yn lle mwy heddychlon i bawb. Bwriad hir dymor y project yw gweld os bydd creu profiad mwy positif yn helpu lleihau y nifer o apwyntiadau a gollwyd.
