Cartref > BLAS - Tiwtoriaid Dan Hyfforddiant
BLAS - Tiwtoriaid Dan Hyfforddiant
Mae cynllun Tiwtoriaid Dan Hyfforddiant BLAS yn gyfle arbennig i fyfyrwyr Prifysgol Bangor ddysgu a chael blas o fod yn ymarferwyr creadigol. Mae'r tiwtoriaid yn cael cyfle i gysgodi ymarferwyr creadigol mewn nifer o gwahanol projectau - o brojectau iechyd a lles, i weithdai drama, a gweithio yn y gymuned. Mae'n gyfle arbennig i feithrin sgiliau a dysgu gan ymarferwyr creadigol llawn amser yma ym Mangor, ac rydym wedi gweld nifer o gyn-diwtoriaid yn mynd ymlaen i weithio mewn amryw o feysydd yn y celfyddydau, a rhai wedi parhau a dechrau gyrfa fel ymarferwyr creadigol gan arwain projectau eu hunain gyda chefnogaeth a chymorth BLAS.
Dewch i wybod mwy am ein cynllun Tiwtoriaid Dan Hyfforddiant isod
BLOG BLAS
Bob mis, byddwn yn rhyddhau BLOG BLAS gan un o'n tiwtoriaid dan hyfforddiant. Dyma gyfle i glywed mwy am hanes BLAS a gwaith ein tiwtoriaid dan hyfforddiant.
Mis Ebrill - Mariel
Darllenwch yma
