Cartref > BLAS > BLAS - Gweithdai Drama Wythnosol

BLAS - Gweithdai Drama Wythnosol


Llwyfan gyda golau isel wedi'i addurno â hetiau, gyda pherson yn eistedd yn y canol gyda'i gefn i'r gynulleidfa

Tri o bobl gyda'i gilydd yn pwyntio at rywbeth

Grŵp o bobl yn perfformio Byd Ben i Waered

MANYLION

Mae gweithdai wythnosol BLAS yn cael eu cynnal yn Stiwdio Pontio. Dyma weithdai drama a pherfformio wythnosol i ddatblygu hyder, presenoldeb llwyfan, sgiliau perfformio ac i fwynhau!

Lle: Stiwdio Pontio

Pryd: Pob nos Lun a nos Fercher yn ystod y tymor
Nos Lun: 5:00pm - 6:00pm - Blwyddyn 3 a 4
Nos Lun: 6:15pm - 7:15pm - Blwyddyn 5 a 6
Nos Fercher: 6:30pm - 7:30pm - Blwyddyn 7, 8 a 9 
Nos Fercher: 7:45pm - 8:45pm - Blwyddyn 10 - 13

Cost: £25 (mae gostyngiad ar gael ar gyfer trigolion LL57 1)

Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg. Does dim rhaid bod yn rhugl, ac rydym yn croesawu pawb o bob gallu ieithyddol.

I gael rhagor o wybodaeth anfonwch ebost at Mared: m.huws@bangor.ac.uk 

TIWTORIAID BLAS

Headshot of Gwion Aled

GWION ALED WILLIAMS

Dechreuodd gyrfa actio proffesiynol Gwion ar gyfres deledu boblogaidd Rownd a Rownd, a bu'n rhan o'r rhaglen am saith cyfres. Yn y cyfnod hwn fe weithiodd ar nifer o sioeau TIE gan gynnwys y sioe arobryn 'Justice in a Day' i Theatr Clwyd. Ar ôl gadael y rhaglen, daeth Gwion yn wyneb cyfarwydd ar lwyfan gan actio mewn cynhyrchiadau gan Theatr Bara Caws a National Theatre Wales. Cafodd ei enwebu am Wobr Actor Orau yn BAFTA Cymru yn 2016. Mae ei waith diweddaraf yn cynnwys Craith / Hidden i S4C/BBC a sioeau 'Mewn Cymeriad' sy'n teithio pob cwr o Gymru. Mae hefyd yn arweinydd gweithdai ac yn cyfarwyddo ac ysgrifennu nifer o sioeau i blant a phobl ifanc ar hyn o bryd.

Headshot of Sarah Mumford

SARAH MUMFORD

Wedi ei lleoli yng Ngogledd Cymru, mae Sarah gyda phymtheg mlynedd o brofiad proffesiynol fel artist ddawns, ond mae rhan helaeth o'i gwaith bellach yn canolbwyntio ar gyfarwyddo symud a choreograffi. Mae mwyafrif o'i gwaith o fewn theatr, ac mae ganddi brofiad yn gweithio gyda disgyblaethau eraill megis syrcas, celf weledol a'r gair llafar. Wedi gweithio yn y gymuned, addysg a chelfyddydau i'r ieuenctid, a hynny drwy'r Gymraeg a'r Saesneg.

GWYBODAETH BWYSIG I RIENI / GOFALWYR

Mae BLAS yn gyrru llythyrau, ebyst a chyda grŵp Whatsapp i rannu gwybodaeth a manylion am ddosbarthiadau, ymarferion, digwyddiadau a mwy. Sicrhewch eich bod yn diweddaru unrhyw fanylion gyda Mared.