Cartref > Darpariaeth i bobl â phroblemau symudedd
Darpariaeth i bobl â phroblemau symudedd
LLEOEDD I GADEIRIAU OLWYN
Mae mannau penodol i gadeiriau olwyn ar gael yn Theatr Bryn Terfel, y Stiwdio, y Sinema a'r ystafelloedd darlithio. Dyma’r mannau dynodedig safonol:
6 yn Theatr Bryn Terfel
2 yn y Stiwdio (ond gellir eu cynyddu os oes angen)
6 yn y sinema
Fodd bynnag, isafswm yw'r rhain ac efallai y bydd mwy o leoedd ar gael yn dibynnu ar drefn yr ystafell i’r digwyddiad.
ARCHEBU LLE I DDEFNYDDIWR CADAIR OLWYN
Cysylltwch â'r swyddfa docynnau dros y ffôn, e-bost neu yn y cnawd i archebu lle i ddefnyddiwr cadair olwyn. Byddwch yn gallu archebu ar-lein yn y dyfodol agos.
WRTH YMWELD AG ADEILAD PONTIO
Mae croeso i chi ofyn i aelod staff am gymorth wrth ymweld ag adeilad Pontio, mae croeso i chi gysylltu ymlaen llaw os oes angen cymorth arnoch wrth gyrraedd y lleoliad.
RAMPIAU A MYNEDFEYDD
Mae sawl ramp parhaol ar hyd a lled yr adeilad, mae ramp allanol hefyd o'r man gollwng i fyny at y brif fynedfa.
Nid oes grisiau o'r maes parcio hygyrch i'r fynedfa ochr.
