Cartref > HYNT

HYNT


Rydym yn aelodau o Hynt, cynllun cerdyn mynediad cenedlaethol, sy'n rhoi ail docyn am ddim i bobl sydd angen cymorth i fynd i ddigwyddiadau mewn lleoliadau i aelodau Hynt ledled Cymru.

Rhoddir y cerdyn i'r unigolyn sydd angen cymorth ac nid i'r cydymaith, gofalwr na chynorthwyydd personol, felly gall unigolyn o’ch dewis fynd gyda chi os ydynt dros 18 oed. Nid oes rhaid iddynt fod yn ofalwr cofrestredig nac yn ofalwr cyflogedig chwaith. Gallwch wneud cais ar-lein trwy wefan Hynt

Os nad ydych yn aelod o Hynt, cysylltwch â ni a byddwn yn cynorthwyo gydag unrhyw geisiadau am docyn i gydymaith.

Yn ôl i dudalen Hygyrchedd

HYNT logo, yellow triangle pointing to the right on a black bachground, with black lettering