Cartref > Darpariaeth i bobl ag amhariad ar y golwg
Darpariaeth i bobl ag amhariad ar y golwg
CŴN TYWYS
Mae croeso i gŵn tywys a chŵn cymorth yn adeilad Pontio.
GOLEUO
Mae goleuadau llachar y tu mewn a thu allan i adeilad Pontio, er y gall rhai o'r meysydd parcio fod yn dywyllach yn y nos. Rhowch wybod i ni os oes angen unrhyw gymorth arnoch.
TALIADAU DIGYFFWRDD
Rydym yn cynnig taliadau cerdyn digyffwrdd er mwyn hwyluso talu am unrhyw beth
SINEMA
Disgrifiad sain – Mae disgrifiad sain is-goch ar gael ar bob ffilm sydd ag 'AD' wedi ei nodi yn ei herbyn yn rhaglen y sinema a thudalennau gwefan y ffilm.
DIGWYDDIADAU BYW
Disgrifiad sain - Bydd perfformiadau sydd â disgrifiad sain yn cael eu hysbysebu ar-lein ac yn y llyfryn tymhorol. Gall y disgrifiadau sain fod yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Gan fod llawer o berfformiadau yn gynyrchiadau teithiol, efallai mai dim ond nifer gyfyngedig o glustffonau fydd ar gael, ac efallai y bydd rhaid i chi archebu ymlaen llaw am ddim. Mae croeso i chi gysylltu â’r swyddfa docynnau i gael rhagor o wybodaeth a rhoi gwybod i ni fod angen clustffonau arnoch.
Teithiau cyffwrdd - Bydd perfformiadau gyda theithiau cyffwrdd yn cael eu hysbysebu ar-lein ac yn y llyfryn tymhorol. Efallai y bydd rhaid i chi archebu taith gyffwrdd ymlaen llaw, am ddim, sydd fel arfer yn digwydd tuag awr cyn amser dechrau'r perfformiad.
