Cartref > Anableddau Cudd, Afiechydon Anweladwy ac Iechyd Meddwl

Anableddau Cudd, Afiechydon Anweladwy ac Iechyd Meddwl


Mae rhai anableddau a chyflyrau yn anweledig. Nid yw ymddangosiad allanol rhywun bob amser yn adlewyrchu eu gofynion mynediad. Pa mor amlwg bynnag yw eich gofynion mynediad, rydym eisiau i'ch ymweliad fod yn hygyrch ac yn groesawgar. Rydym hefyd yn deall y gall cyflwr iechyd meddwl neu orbryder, boed yn hirdymor neu'n fyrdymor, effeithio arnoch chi wrth ymweld â ni.

Y wefan hon

Ar y wefan hon, byddwn yn ceisio dangos y wybodaeth ganlynol am ein sioeau:

  • Hyd sioe.
  • Unrhyw rybuddion sbardun neu rybuddion cynnwys ar gyfer sioe.
  • Effeithiau fel goleuadau strôb a synau uchel.
  • Unrhyw berfformiadau hygyrch

Ein nod yw sicrhau bod y wefan yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf bob amser, ond nid yw'r wybodaeth hon ar gael bob amser felly os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â'r swyddfa docynnau.

PERFFORMIADAU A FFILMIAU HAMDDENOL

Mae'r rhain ar agor i bawb ond maent wedi eu cynllunio'n benodol i groesawu pobl a fydd yn elwa o amgylchedd mwy hamddenol, boed hynny oherwydd cyflwr ar y sbectrwm awtistiaeth, anabledd dysgu, neu ofn y tywyllwch, ofn synau uchel neu ofn mannau cyfyng. 

  • Bydd y goleuadau ymlaen yn isel
  • Bydd y sain yn cael ei gostwng ychydig
  • Agwedd hamddenol at symudiad a sŵn – mae croeso i chi fynd a dod
  • Efallai y bydd effeithiau goleuo yn cael eu lleihau (e.e. goleuadau strôb)
  • Efallai y bydd llai o bobl yn y gynulleidfa (gwiriwch y digwyddiadau unigol)

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae croeso i chi ddod ag unrhyw offer diogelu clyw, sbectol sensitifrwydd golau, teganau synhwyraidd neu eitemau cysur gyda chi i unrhyw un o'n perfformiadau.

Mae ein staff wedi cael hyfforddiant Cyfeillion Dementia

Mae ein theatrau fel arfer yn agor 20 munud cyn i'r sioe ddechrau, a bydd drysau'r sinema yn agor chwarter awr cyn yr amser dechrau a hysbysebir. Oherwydd hyd rhai ffilmiau, efallai y byddant yn dechrau'n brydlon ar yr amser a hysbysebir, ac nid ar ôl 10 munud o hysbysebion. Os felly, bydd yn cael ei nodi'n glir ar-lein ac yn rhaglen y sinema.

Nid oes gennym ystafell dawel ddynodedig, ond os oes angen lle tawel arnoch, rhowch wybod i aelod staff.