Image of the band against red background

Lindisfarne

Cartref > Digwyddiadur > Lindisfarne

Gwybodaeth


Daeth y band LINDISFARNE i'r amlwg o Tyneside yn y 1970au, ac aethant ati’n gyflym i gerfio lle unigryw i'w hunain fel un o fandiau roc-gwerin mwyaf gwreiddiol Prydain. Roedd eu sain arloesol a oedd yn cyfuno offerynnau acwstig, megis mandolin a ffidil, â’u gwreiddiau blws trydan, yn gyfrwng perffaith i gyflwyno caneuon bachog a chofiadwy ysgrifenwyr y band, Alan Hull a Rod Clements. Roedd eu cân boblogaidd gyntaf, Meet Me On The Corner, a ysgrifennwyd gan Clements, yn arwain y ffordd ar gyfer eu clasur, Fog On The Tyne, i ddod yn albwm mwyaf poblogaidd y Deyrnas Unedig yn 1972.

Bu i aelodau gwreiddiol y band wahanu yn 2003, ond erbyn hyn mae LINDISFARNE yn ôl gyda grŵp pum darn clasurol o aelodau hir-amser, gydag un o’r sylfaenwyr gwreiddiol, Rod Clements (llais, mandolin, ffidil, gitâr sleid) a mab-yng-nghyfraith Alan Hull, sef Dave Hull-Denholm (llais, gitâr), yn eu harwain.

Mae apêl oesol LINDISFARNE yn parhau i herio disgwyliadau wrth i’r band gychwyn ar flwyddyn arall o deithio’n ddi-baid yn 2025. Dan arweiniad yr aelod sylfaenydd gwreiddiol Rod Clements, bydd y band hoffus ac uchel ei barch o ogledd ddwyrain Lloegr yn perfformio eu repertoire o ganeuon bythgofiadwy, gan gynnwys Meet Me On The Corner, Fog On The Tyne, Lady Eleanor a Run For Home. Yn enwog am eu perfformiadau byw heb eu hail, mae pŵer Lindisfarne i wefreiddio cynulleidfaoedd gwyliau a chyngherddau’n parhau heb ei bylu, ac maent yn sicr o gael y dorf ar eu traed ac yn canu.

Llun: James Hind

Nos Wener 7 Tachwedd
7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£30