Llun o bedwar aderyn yn hedfan a gwyneb yr arweinydd Ryan Bancroft a'r seren corn ffrengig Ben Goldscheider

BBC NOW: Gwawr o Gyrn

Cartref > Digwyddiadur > BBC NOW: Gwawr o Gyrn

Gwybodaeth


Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwawr o Gyrn

(Ida) Moberg Soluppgång: Tondikt för orkester (Codiad haul)
Huw Watkins Horn Concerto
Mozart Concerto i’r Corn Ffrengig Rhif 4
Sibelius Symffoni Rhif 5

Ryan Bancroft arweinydd
Ben Goldscheider corn Ffrengig

Noson y Ffindir a’r Cyrn Ffrengig fydd hi heno wrth i ni deithio i Aberystwyth a Bangor yng nghwmni seren y Corn Ffrengig, Ben Goldscheider, fydd yn chwarae dau goncerto, gan Huw Watkins a Mozart. Mae concerto Huw Watkins, a ysgrifennwyd ar gyfer Ben, yn archwilio ystwythder a nodweddion telynegol y corn – rhinweddau y mae Huw yn eu hedmygu’n fawr yn chwarae Ben – tra bod Pedwerydd Concerto Mozart yn llawn swyn ac egni chwareus. Rhwng dau symudiad allanol bywiog a byrlymus ceir Romanza canolog gosgeiddig.

Mae’r gwaith cyntaf a glywn ni heno’n anghyfarwydd i’r rhan fwyaf o bobl ond yn haeddu mwy o sylw ar y llwyfan gyngerdd heb os – Soluppgång y cyfansoddwr o’r Ffindir Ida Moberg, cathl symffonig syfrdanol sy’n cyfleu natur a chysylltiad dyn â hi. Ac i gloi, byd natur yw thema ei chydwladwr Sibelius hefyd yn ei fawlgan i dir ei famwlad, ei Bumed Symffoni rymus a dyrchafol – gwrandewch am un o’r motiffau corn cerddorfaol enwocaf erioed yn y symudiad olaf buddugoliaethus wrth iddo baentio’r ddelwedd o haid o elyrch yn hedfan.

Nos Wener 14 Tachwedd
7.30pm

Neuadd Prichard-Jones

Safonol: £15
Dros 60: £10
Myfyrwyr a dan 26: £6

Tocynnau Teulu: