Llun o cast Llanast - Siôn Emyr, Gwenllian Higginson, Carwyn Jones, Manon Wilkinson, mewn glas, pic, melyn a gwyrdd

Theatr Bara Caws: Llanast

Cartref > Digwyddiadur > Theatr Bara Caws: Llanast

Gwybodaeth


Cyfieithiad Gareth Miles o ‘Le Dieu du Carnage’ gan Yasmina Reza

2 fam, 2 dad, 2 fab × wisgi, tiwlips a ffôn = llanast!

Mae dau bâr o rieni yn cwrdd i drafod ymddygiad eu plant anystywallt - mae plentyn un ohonynt wedi brifo plentyn y llall mewn parc.

Mae’r cyfarfod yn cychwyn yn o gall, a’r pedwar yn ddigon bonheddig, ond wrth i amser fynd yn ei flaen mae ymddygiad y pedwar yn mynd yn fwyfwy plentynnaidd, a diolch i botel o Benderyn, daw’r cyfarfyddiad i ben mewn anhrefn llwyr!

Mae chwarae’n troi’n chwerw go iawn yn y ddrama ddoniol, ddeifiol hon.

Canllaw oed: 14+
This is a Welsh language production, English precis will be available

Cast:
Siôn Emyr
Gwenllian Higginson
Carwyn Jones
Manon Wilkinson

Cyfarwyddo:
Betsan Llwyd

Nos Fawrth 4 + Nos Fercher 5 Tachwedd
7.30pm

Stiwdio

£15