Cartref > Digwyddiadur > Clwb Ffilm Byddar - Effi o Blaenau
Gwybodaeth
Dewch i ymuno â’n Clwb Ffilm Byddar! Dyma le i’r gymuned Fyddar a defnyddwyr BSL ddod at ei gilydd i fwynhau dangosiadau sinema. Os ydych yn ymuno â’n Clwb Ffilm Byddar byddwch yn:
- Cwrdd cyn y ffilm am sgwrs sydyn a chyfle i gymdeithasu
- Gwylio ffilmiau newydd gydag is-deitlau
- Tocynnau gyda gostyngiadau i grwpiau o 10 neu fwy
Effi o Blaenau
Nos Fawrth 30 Mehefin, 6pm
Bydd ein Clwb Ffilm Byddar cyntaf yn cael ei chynnal ar Nos Fawrth 30 Mehefin am 6pm, i ffilm newydd Effi o Blaenau - ffilm iaith Gymraeg gydag is-deitlau Saesneg. Yn seiliedig ar fonodrama clodwiw Gary Owen, Iphigenia in Splott, mae Effi o Blaenau yn addasiad sinematig gan Marc Evans wedi’i osod yng Ngogledd Cymru. Mae Effi (Leisa Gwenllian) yn ysu am gael dianc o’i thref enedigol a daw llygedyn o obaith pan fydd hi'n cwrdd â Lee, milwr wedi'i anafu. Pan fydd realiti’n taro, mae hi’n wynebu bywyd fel darpar fam sengl, ddi-waith, gan amlygu argyfwng cymdeithasol llym gyda phrinder wardiau mamolaeth a bydwragedd. Mae Leisa Gwenllian yn rhoi perfformiad pwerus fel Effi.
Dewch i gwrdd â ni yn mar Ffynnon, a chwiliwch am arwydd ‘Clwb Ffilm Byddar’ ac ymunwch â ni am ddiod a sgwrs anffurfiol, bydd y dehonglydd BSL Lauren Jade hefyd yn bresennol. Bydd ein staff bar a Swyddfa Docynnau yn barod i’ch croesawu.
Cofiwch archebu tocyn i'r sioe drwy'r botwm uchod!
Nos Fawrth 30 Mehefin, 6pm
Bar Ffynnon, Pontio
Digwyddiad am ddim a nid oes angen tocyn i'r Clwb Ffilm Byddar.
Dehonglwr BSL - Lauren Jade
Tystysgrif y ffilm - 15. Ni fydd unrhyw un o dan 15 oed yn cael mynediad i'r dangosiad
Bydd angen archebu tocyn i weld y ffilm ar Nos Fawrth 30 Mehefin, 7pm
