Cartref > Digwyddiadur > Theatr Byd Bach: Pleth
Gwybodaeth
Camwch o gyrraedd signal ac i mewn i goedwig law dymherus brin yng nghalon gorllewin Cymru.
Pan fo’r rhwydwaith symudol yn methu yn sydyn, aiff popeth yn banic llwyr, sgriniau yn rhewi a’r byd yn dad-gysylltu’n syth bin. Yn y llonyddwch sy’n dilyn, ry’n ni’n cymryd ennyd fach, anadlu a sylwi ar rywbeth hudolus yn dechrau cyniweirio. Sylwn ar dirwedd byw, sy’n gynefin i ffwng cynhenid, pryfetach, adar a chreaduriaid, lle mae rhythmau byd natur yn cyd-gysylltu. O dan ein traed, mae rhwydwaith eang o myceliwm yn gwehyddu trwy wreiddiau coed hynafol gan gyfathrebu’n dawel.
Mae Pleth yn cyfuno symud, sain foley ac adrodd stori weledol gyda defnydd awgrymol o BSL, gan wahodd cynulleidfaoedd i fyd ymgollol, cyfoethog lle mae cydbwysedd delicet y goedwig yn dod yn fyw.
Wrth i dechnoleg ail-gynnau, mae’r ysfa i ail-gysylltu â’r byd digidol yn gwrthdaro â rhywbeth dyfnach...rhythm hynach, tawelach sy’n ein dysgu i aros, gwrando a gweld go iawn.
Addas i bawb. Perfformiad di-eiriau yw hwn. Bydd eiliadau o sain uchel a grewyd gan artist foley i adeiladu tensiwn.
Dydd Sadwrn 12 Medi, 11am + 2pm
Stiwdio
45 munud a gweithdy ar ôl pob perfformiad
Oedolyn: £8.50
Plant (dan 18): £7.50
Teulu o 4: £28
Teulu o 5: £35
