Show title in white font with an owl in the background

Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau 

Cartref > Digwyddiadur > Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau 

Gwybodaeth


Cynhyrchiad Theatr Cymru, Yr Egin a Chwmni Theatr Arad Goch,
gyda chefnogaeth gan Theatrau Sir Gâr

Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau

Gan Mererid Hopwood
Cerddoriaeth gan Seiriol Davies

Mae pawb yn gyffro i gyd ar ddiwrnod cynta’r tymor yn Ysgol Gwaelod y Garn. Ond mae’r plant ar fin cael newyddion drwg... mae’r ysgol yn mynd i GAU!

Wrth i Alfred, Elen a’u ffrindiau geisio meddwl am ffordd o achub eu hysgol fach, mae athrawes newydd a braidd yn llym yr olwg yn cyrraedd: Miss Prydderch. Ond cyn hir, daw hi’n amlwg ei bod hi’n athrawes anghyffredin o arbennig. Os gall unrhyw un helpu’r plant i achub yr ysgol, Miss Prydderch yw’r un!

Mewn sioe sy’n llawn dop o ddireidi, dychymyg a cherddoriaeth, cewch deithio gyda dosbarth Miss Prydderch ar antur fythgofiadwy lle mae’r ffrindiau’n trechu eu hofnau a darganfod pwysigrwydd codi eu lleisiau.

Dyma sioe gerdd hudolus newydd sy’n dod ag anturiaethau a chymeriadau’r gyfres lyfrau annwyl i’r llwyfan, gyda sgript newydd sbon gan Mererid Hopwood, a cherddoriaeth fywiog gan Seiriol Davies.

Whwsh! Bant â ni!

Dydd Iau 2 Gorffennaf, 1pm
Dydd Gwener 3 Gorffennaf, 10am + 1pm
Dydd Sadwrn 4 Gorffennaf, 1pm

Theatr Bryn Terfel

Safonol: £10
Dros 60: £10
O dan 18: £8

Tocyn Teulu i 4: £30 (2 oedolyn a 2 blentyn neu 1 oedolyn a 3 plentyn)

Canllaw oed: 7+