White bold text on a blue background - The Cat in the Hat - with a man dressed as a cat with red bow and white and red striped top hat

The Cat in the Hat

Cartref > Digwyddiadur > The Cat in the Hat

Gwybodaeth


Gan gynhyrchwyr ‘Parti Pen-blwydd Smot’

Dewch i brofi’r direidi gyda'r addasiad llwyfan clodwiw o The Cat in the Hat gan Dr Seuss.

O'r eiliad y mae ei het dal, streipiog goch a gwyn yn ymddangos, mae Sally a'i brawd yn gwybod mai'r gath yn yr het yw'r gath fwyaf doniol a direidus maen nhw erioed wedi'i gyfarfod. Gyda'i driciau twyllodrus a'i syniadau gwallgof, mae'n troi prynhawn glawog yn antur anhygoel.

Mae The Cat in the Hat yn brofiad theatr cyntaf bywiog a diddorol i blant ifanc 3 oed a hŷn.

Dewch i gwrdd â'r gath yn yr het ar ôl y sioe.

Dydd Iau 9 Ebill, 2pm
Dydd Gwener 10 Ebrill, 11am + 2pm

Theatr Bryn Terfel

Hyd y perfformiad: Tua 45 munud heb egwyl
Argymhelliad oedran: 3+

Safonol: £18
Plentyn: £15

Teulu o 4: £60
Teulu o 5: £70

Ysgolion: £10 (athrawon am ddim)