Cartref > Digwyddiadur > Effi o Blaenau (15)
Gwybodaeth
Cymraeg gydag is-deitlau Saesneg
Yn seiliedig ar fonodrama clodwiw Gary Owen, Iphigenia in Splott, mae Effi o Blaenau yn addasiad sinematig gan Marc Evans wedi’i osod yng Ngogledd Cymru. Mae Effi (Leisa Gwenllian) yn ysu am gael dianc o’i thref enedigol a daw llygedyn o obaith pan fydd hi'n cwrdd â Lee, milwr wedi'i anafu. Pan fydd realiti’n taro, mae hi’n wynebu bywyd fel darpar fam sengl, ddi-waith, gan amlygu argyfwng cymdeithasol llym gyda phrinder wardiau mamolaeth a bydwragedd. Mae Leisa Gwenllian yn rhoi perfformiad pwerus fel Effi.
RHAGDDANGOSIAD
Yn ogystal a'r rhediad o ddangosiadau rhwng 19 Mehefin a 2 Gorffennaf, bydd rhagddangosiad a sgwrs gyda'r cyfarwyddwr Marc Evans ar Nos Iau 18 Mehefin, 7pm. Tocynnau ar gael yma
Marc Evans, 2026, 90 mins
Leisa Gwenllian, Tom Rhys Harries, Owen Alun, Nel Rhys Lewis, Mared Llywelyn, Sion Eifon
Gwener 19 Mehefin-Iau 2 Gorffennaf
Safonol: £8.50
Dros 60: £7.50
Myfyriwr / Dan 18: £6.50
