Man falling through the air in a shed with text Clwb Theatr Byddar / Deaf Theatre Club in white lettering

Clwb Theatr Byddar - Wythnos Yng Nghymru Fydd

Cartref > Digwyddiadur > Clwb Theatr Byddar - Wythnos Yng Nghymru Fydd

Gwybodaeth


Dewch i ymuno â’n Clwb Theatr Byddar! Dyma le i’r gymuned Fyddar a defnyddwyr BSL ddod at ei gilydd i fwynhau theatr byw a digwyddiadau byw eraill. Os ydych yn ymuno â’n Clwb Theatr Byddar byddwch yn:

  • Derbyn sgwrs cyn sioe am ddim gyda aelod o dîm artistig y cynhyrchiad
  • Gwylio cynhyrchiadau gyda dehongliad BSL neu sioe gyda BSL wedi’u hintegreiddio
  • Tocynnau gyda gostyngiadau i grwpiau o 10 neu fwy

Wythnos Yng Nghymru Fydd
Nos Fercher 21 Hydref, 6.30pm

Bydd yr ail Clwb Theatr Byddar cyntaf yn cael ei chynnal ar Nos Iau 21 Hydref am 6.30pm i gynhyrchiad newydd o Wythnos Yng Nghymru Fydd gan Islwyn Ffowc Elis. Mae'r perfformiad ar y noson hon, gyda Cathryn McShane yn dehongli.

Dewch i gwrdd â ni yn mar Ffynnon, a chwiliwch am arwydd ‘Clwb Theatr Byddar’ ac ymunwch â ni am ddiod a sgwrs anffurfiol gyda un o wneuthurwyr y sioe, bydd dehonglydd BSL  hefyd yn bresennol. Bydd ein staff bar a Swyddfa Docynnau yn barod i’ch croesawu.

Cofiwch archebu tocyn i'r sioe drwy'r botwm uchod!


Nos Fercher 21 Hydref, 6.30pm

Bar Ffynnon, Pontio

Digwyddiad am ddim a nid oes angen tocyn i'r Clwb Theatr Byddar.

Bydd Dehonglydd BSL yn bresennol (dehonglydd i'w gadarnhau)

Bydd angen archebu tocyn i weld y sioe ar Nos Fercher 21 Hydref, 7.30pm

Gwybodaeth a Thocynnau i Wythnos Yng Nghymru Fydd