Three men - two standing and one on the floor with dark background and stage lighting

Matsena: BOY-ISH

Cartref > Digwyddiadur > Matsena: BOY-ISH

Gwybodaeth


gan Rhys Warrington, ynghyd ag Anthony Matsena a Kel Matsena

Mae pedwar dyn ifanc yn torri i mewn i'w hen ysgol un noson i yfed, sgwrsio a mynd yn ôl i gyfnod pan oeddent yn gyfeillion mynwesol. Maent yn ail-fyw’r jôcs a'r gemau roeddent yn eu rhannu fel plant. Yr hwyl wirion a'r creulondeb di-hid. Y gobeithion a'r breuddwydion a fu’n gwyrdroi ac yn newid dros y blynyddoedd wrth iddynt dyfu i fod y dynion yr ydynt heddiw.

Drama newydd yw BOY-ISH gan y brodyr Matsena, sydd wedi ennill gwobr BAFTA Cymru, a'r dramodydd clodwiw o Gymru, Rhys Warrington. Wedi ei hadrodd drwy gerddoriaeth, symudiad a drama gyffrous, mae'n dangos yr effaith sydd gan gymdeithion a lleoedd wrth lunio hunaniaeth dynion. Sut mae ceisio newid yn edrych fel brad ac aros yr un fath yn edrych fel methiant. Sut mae teimladau'n rhywbeth rydych yn cael eich dysgu i'w hanwybyddu neu eu bwrw i’r naill ochr, tan y foment na allwch.

Noddir gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru

14+

Dydd Sul 7 Mehefin, 5pm

Theatr Bryn Terfel

Safonol: £16
Dros 60: £16
Myfyrwyr a dan 18: £10