Cartref > Digwyddiadur > Theatr Clwyd: Under Milk Wood
Gwybodaeth
O’r dechrau un…
Mae trigolion pentref Llareggub yn breuddwydio am gariad coll, cyd-longwyr wedi boddi a phriodasau aflwyddiannus.
Mae amser yn mynd heibio.
Camwch i fyd egsentrig sy’n llawn rhamant, ffantasi, sgandal a chân. Cynhyrchiad doniol, cyffrous a hygyrch o ddrama eiconig y bardd o Gymru, Dylan Thomas.
Cynhyrchiad Theatr Clwyd gyda chefnogaeth Craidd
Nos Iau 14 – Nos Sadwrn 16 Mai, 7.30pm
Nos Iau 21 – Nos Sadwrn 23 Mai, 7.30pm
Dydd Sadwrn 16 + 23 Mai, 2pm
Theatr Bryn Terfel
£18 - £28
Bydd pob sioe yn cynnwys Iaith Arwyddion Prydain (BSL), Sain Ddisgrifiad a chapsiynau, wedi’u hintegreiddio yn rhan o ddyluniad y sioe.
Canllaw oed: 14+
