Cartref > Digwyddiadur > Frân Wen: Wythnos yng Nghymru Fydd
Gwybodaeth
Mae Ifan yn byw ar yr ymyl. Yn cadw pawb hyd braich, yn yfed yn galed, yn chwerthin yn uwch na neb arall. Dydy o byth yn edrych yn ôl. Ond mae un person yn aros yn ei feddwl - Mair.
Wrth i storm wleidyddol godi yng Ngogledd Cymru, mae Ifan yn cael ei daflu ymlaen ddegawdau mewn amser. Dwywaith.
Mae un dyfodol yn cynnig Cymru rydd yn llawn cariad a gobaith. Mae’r llall yn fyd llwm heb iaith, ffiniau, a chymuned. Yn y ddau fyd mae Mair. Rhyngddynt mae’r presennol - a rhaid i Ifan ddewis.
Yn llawn cariad, emosiwn a chynnwrf gwleidyddol, mae Wythnos yng Nghymru Fydd, wedi’i ysgrifennu gan Mared Llywelyn Williams a’i chyfarwyddo gan Gethin Evans, yn ail-ddychmygiad beiddgar o glasur Islwyn Ffowc Elis sy’n gofyn pa ddyfodol sy’n cael ei greu gan ein heddiw?
Clwb Theatr Byddar
Byddwn yn cynnal Clwb Theatr Byddar ar Nos Fercher 21 Hydref am 6.30pm. Rhagor o wybodaeth yma.
Nos Fawrth 20 Hydref, 7.30pm
Dydd Mercher 21 Hydref, 12.30pm + 7.30pm
Theatr Bryn Terfel
Safonol: £20
Dros 60: £18
Myfyriwr a plant (dan 18): £15
Capsiynau: pob perfformaid
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL) a sain ddisgrifiad (AD): 21 Hydref, 7.30pm
Addas i 14+
