Smiling White man in a grey jumper stood in front of a stream and greenery.

The Reith Lectures: Robert Macfarlane

Cartref > Digwyddiadur > The Reith Lectures: Robert Macfarlane

Gwybodaeth


THE REITH LECTURES 2026

Ymunwch â'r awdur natur llwyddiannus, Robert Macfarlane, wrth iddo ddadlau bod cred mewn goruchafiaeth ddynol wedi ein harwain at drothwy trychineb planedol. “Rydyn ni’n dychmygu ein hunain yn eistedd ar gopa, ond mewn gwirionedd rydyn ni’n sownd mewn gwe o fywyd,” meddai. Mae Macfarlane yn archwilio achosion a chanlyniadau'r ‘cymhleth goruchafiaeth ddynol’ hwn ar ein perthnasoedd â'r byd byw ehangach –– ac mae hefyd yn dangos sut mae gwyddonwyr, awduron, artistiaid ac ymgyrchwyr ledled y byd yn herio stori eithriadoldeb dynol er mwyn gwireddu dyfodol gobeithiol a hyfyw ar y Ddaear.

Mae'r noson yn cynnwys sesiwn holi ac ateb wedi’i gadeirio gan Anita Anand. Bydd yn cael ei recordio i'w ddarlledu ar BBC Radio 4 ac ar y World Service.

Nos Lun 2 Tachwedd
Theatr Bryn Terfel

Drysau: 6pm

Darlith a Sesiwn Holi ac Ateb: 7pm

Am Ddim, ond bydd angen tocyn

I drafod anghenion hygyrchedd cysylltwch â:
Brenda.brown@bbc.co.uk