Cartref > Digwyddiadur > Dylan Moran: Looking For Trouble
Gwybodaeth
Mae Mick Perrin Worldwide yn cyflwyno
Dylan Moran: LOOKING FOR TROUBLE
Mae’n amser. Beth ydych chi'n mynd i'w wneud?
Ydych chi am fynd i’ch gwaith? Neu aros yn y gwely, gan fynd ar drywydd ebargofiant. Dyfalwch beth?
Does dim ebargofiant ar ôl.
Bydd yr Economi'n gwneud yn iawn heboch chi - ond pa mor hir fyddwch chi'n goroesi heb y gwpan enfawr arferol o latte caramel wedi'i rewi a gweddill y lol sy’n ffurfio eich bywyd beunyddiol?
Peidiwch â chynhyrfu, mae cymaint o ddrama a dydyn ni ddim hyd yn oed wedi gadael y tŷ eto.
Dewch i ddarganfod sut y gallai popeth fod wedi bod yn wahanol. Dewch i ddysgu sut i adennill eich bywyd trwy ddod yn bencampwr cic-focsio a gwyddbwyll o fri. Arloeswch dueddiadau newydd byd-eang ym myd rhyw, ymunwch â band elît, beirdd sy’n driliwnwyr/chefs cynnyrch crwst/mynyddwyr. Ewch amdani
LOOKING FOR TROUBLE
Sioe newydd sbon gan y digrifwr sydd wedi ennill gwobrau BAFTA a Perrier, a seren Black Books, Dylan Moran.
Nos Wener 30 Hydref, 8pm
Theatr Bryn Terfel
Tocynnau: £30
Oedran: 16+
