Cartref > Digwyddiadur > Charlie Baker: Go Get It
Gwybodaeth
Mae'r cyflwynydd radio arobryn, y seren stand-yp a'r diddanwr diatal Charlie Baker yn dychwelyd i'r llwyfan gyda'i sioe newydd sbon: GO GET IT.
Efallai eich bod yn ei adnabod o'i rolau yn Eastenders a Dr Who, neu o The Last Leg, Parenting Hell neu fel enillydd ar House of Games. Efallai ei fod yn fwyaf adnabyddus fel cyflwynydd ar talkSPORT a Virgin Radio, ond ar y llwyfan mae Baker yn symud i gêr hollol wahanol. Disgwyliwch adloniant llawn egni, yn llawn arsylwadau craff, egni heintus a pherfformiad sydd prin yn oedi i gymryd anadl.
Rydych wedi clywed y llais. Nawr dewch i brofi’r anhrefn.
GO GET IT.
Nos Wener 30 Ebrill 2027
7.30pm
Hyd y sioe: tua 85-95 munud ac egwyl
Stiwdio
£17
Oedran: 14+
