Ross Noble in an oval frame with a blue flower background

Ross Noble - Cranium of Curiositites

Cartref > Digwyddiadur > Ross Noble - Cranium of Curiositites

Gwybodaeth


Dewch yn llu i gael llond trol o hwyl! Neu gallwch ddefnyddio cerbyd mwy confensiynol i ddod i’r sioe. Chi sy’n dewis. Oni bai bod rhywun yn troi’r drol cyn i chi gychwyn.

Os bydd hynny’n digwydd, gwnewch bopeth i ddod i weld yr unigryw Ross Noble!

Ef yw Meuryn y Mwydro, Arglwydd y Malu Awyr, Brenin y Paldaruo ac mae'n ôl yn fyw ar y llwyfan ar ei daith lle mae’n arwain y gynulleidfa i ddrysfa ei ddychymyg. 
Ni all unrhyw un ddyfalu beth fydd cynnwys y sioe, ond mae hynny i gyd yn rhan o'r hwyl pan edrychwch y tu mewn i’r Cranium of Curiosities. 

*Rydym yn eich cynghori i beidio â dod â throl efo chi i’r perfformiad. Er y dywediad “llond trol o hwyl”, gallai hynny amharu ar eich mwynhad o’r sioe.

Cyflwynir gan Mick Perrin Worldwide Ltd

Nos Sadwrn 1 Mai 2027, 8pm

Theatr Bryn Terfel

£30

Oed: 15+