Morgan Rees smiling and wearing a dark green velvet jacket

Morgan Rees: What A Bummer

Cartref > Digwyddiadur > Morgan Rees: What A Bummer

Gwybodaeth


Yn dilyn taith a werthodd allan yn 2024, mae'r seren stand-yp a'r seren ar-lein poblogaidd, Morgan Rees, yn ei ôl ar y lôn efo sioe newydd sbon y bu mawr aros amdani.

Ar ôl i Morgan a'i bartner fynd ar wyliau ar wahân - un i Fforwm Mathemateg yn Coventry a'r llall i Barti Eirth yn Barcelona - fe wnaeth datguddiad enfawr orfodi Morgan i ailystyried popeth. Cael ei wahardd o drenau’r Great Western, cael ei ddiswyddo fel Bwtler Noeth, ac anwybyddu Paul McCartney… ai ei fai ef oedd y rhain mewn gwirionedd?

Ydy hynny wedi eich denu chi? Go dda, oherwydd dyna'r unig bethau sy'n ddigon addas i'w cynnwys yn y broliant. Sioe stand-yp am dreialon a chamgymeriadau syrthio mewn cariad a chadw'r berthynas yn fyw, y cyfnod yna o ansicrwydd wrth aros am ddiagnosis, a'r profiad o fod yn fachgen gwyn o’r cymoedd yng Nghymru yn integreiddio i deulu Guattari balch. O oes, mae ganddo ddigon i siarad amdano.

Yn ogystal â miliynau’n gwylio ei sioeau ar-lein ac adolygiadau gwych am ei sioeau byw, mae Morgan wedi cefnogi Joanne McNally, Rhys James a Jayde Adams ar daith, wedi ymddangos yn y rownd derfynol yng Ngwobrau Comedi Newydd y BBC, ac wedi cyflwyno podlediadau poblogaidd My Bad a Chatting With Cherubs ochr yn ochr â Josh Jones a Gearóid Farrelly.

Nos Wener 27 Tachwedd 2026
8pm

Stiwdio

Safonol: £21
Myfyrwyr: £18

Adolygiadau

"Fast gags, unexpected swerves and rolling stories" The Sunday Times

"A fine storyteller... with tremendous heart and warmth" The Scotsman

"Fantastically funny" Entertainment Now