Cartref > Digwyddiadur > The Gruffalo's Child
Gwybodaeth
Tall Stories yn cyflwyno
The Gruffalo's Child
Addasiad o lyfr lluniau arobryn Julia Donaldson ac Axel Scheffler
Dywedodd y Gryffalo na ddylai unrhyw gryffalo
fyth fynd am dro i’r goedwig fawr ddofn...
Dilynwch Blentyn y Gryffalo ar daith anturus yn addasiad hudolus Tall Stories o'r llyfr lluniau poblogaidd gan Julia Donaldson ac Axel Scheffler.
Un noson wyllt a gwyntog mae Plentyn y Gryffalo yn anwybyddu rhybuddion y tad am y Llygoden Fawr Ddrwg ac yn cerdded ar flaenau ei thraed allan i'r goedwig dywyll ddofn. Mae'n dilyn llwybrau eira ac yn dod ar draws creaduriaid dirgel – ond nid yw'r Llygoden Fawr Ddrwg yn bodoli mewn gwirionedd ... ydi hi?
Gadewch i'ch dychymyg redeg yn wyllt gyda chaneuon, chwerthin a hwyl brawychus i bawb rhwng 3 a 103 oed.
Dydd Gwener 21 Tachwedd, 1.30pm a 4.30pm
Dydd Sadwrn 22 Tachwedd, 10.30am a 1.30pm
Theatr Bryn Terfel
Safonol: £15
Plant (dan 18): £12
Tocyn teulu i4: £48
Tocyn teulu i 5 : £60
YSGOLION: £10 (athrawon am ddim)
Oedran: 3+