Cartref > Digwyddiadur > There's a Snake in My School
Gwybodaeth
Yn seiliedig ar lyfr hynod boblogaidd David Walliams, sydd hefyd wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg (NEIDR YN YR YSGOL) mae 'THERE'S A SNAKE IN MY SCHOOL!' yn sssssioe gerdd newydd hynod ddoniol.
Nid diwrnod ysgol cyffredin ydi hi heddiw - mae’n ddiwrnod ‘Dewch-â’ch-anifail-anwes-i'r-ysgol’ - ac mae Miranda, sydd wrth ei bodd bod yn wahanol, yn cyflwyno ei chyd-ddisgyblion i’w hanifail anwes arbennig iawn… Penelope y peithon! Ac mae hi'n enfawr!
Nid yw Miss Bloat, y brifathrawes erchyll, yn hoffi anifeiliaid anwes rhyw lawer. Na phlant. Mae hi'n meddwl na ddylid caniatáu nadroedd yn yr ysgol. Ond mae gan Penelope syniadau eraill …
Yn llawn ffolineb, helynt a chaneuon – ynghyd ag amrywiaeth o anifeiliaid anhygoel – mae 'THERE’S A SNAKE IN MY SCHOOL!' yn ein dysgu i amddiffyn ein ffrindiau a meiddio bod yn wahanol.
Ar gyfer plant 3+ oed
Dydd Iau 9 Ebill, 2pm
Dydd Gwener 10 Ebrill, 11am + 2pm
Theatr Bryn Terfel
Safonol: £18
Plentyn: £15
Teulu o 4: £60
Teulu o 5: £70
Ysgolion: £10 (athrawon am ddim)