Two woman running in long dresses in the countryside

Clwb Ffilm Byddar - Sense and Sensibility (U)

Cartref > Digwyddiadur > Clwb Ffilm Byddar - Sense and Sensibility (U)

Gwybodaeth


Dewch i ymuno â’n Clwb Ffilm Byddar! Dyma le i’r gymuned Fyddar a defnyddwyr BSL ddod at ei gilydd i fwynhau dangosiadau sinema. Os ydych yn ymuno â’n Clwb Ffilm Byddar byddwch yn:

  • Cwrdd cyn y ffilm am sgwrs sydyn a chyfle i gymdeithasu
  • Gwylio ffilmiau newydd gydag is-deitlau
  • Tocynnau gyda gostyngiadau i grwpiau o 10 neu fwy

Sense and Sensibility (U)

Bydd ein Clwb Ffilm Byddar nesaf yn cael ei gynnal ar Dydd Sul 4 Hydref am 4.15pm. Dewch i gwrdd â ni yn mar Ffynnon, a chwiliwch am arwydd ‘Clwb Ffilm Byddar’ ac ymunwch â ni am ddiod a sgwrs anffurfiol. Bydd ein staff bar a Swyddfa Docynnau yn barod i’ch croesawu.

Mae Sense and Sensibility yn stori am gariad, teulu a chwaeroliaeth, yn seiliedig ar y nofel gan Jane Austen.

Cofiwch archebu tocyn i'r ffilm!

Dydd Sul 4 Hydref, 4.15pm

Bar Ffynnon, Pontio

Bydd angen archebu tocyn i weld y ffilm ar Dydd Sul 4 Hydref am 5pm

Gwybodaeth a Thocynnau i Sense and Sensibility