Hand in a glove reaching down from above and a girl standing on grass with flowers and The Mab title on the left

The Mab

Cartref > Digwyddiadur > The Mab

Gwybodaeth


Antur chwedlonol trwy Annwn lle ni’n cyfarfod â gwrachod, cewri a brenhinoedd. Teithiwch drwy straeon hudolus y Mabinogi gyda cherddoriaeth fyw, pypedwaith a hud a lledrith mewn cynhyrchiad llwyfan newydd sy’n llawn cyffro.

Yn 11 oed ac wedi blino ar oedolion yn gwneud penderfyniadau drosti, mae Seren yn flin. Yn sydyn, mae taranau’n taro, gwrachod yn ymddangos, ac nid yw ei mam i’w gweld yn unman. Ymunwch â Seren ar ei hymdrech drwy chwedlau’r Mab i achub ei mam rhag y Grafanc.

Wedi'i ysbrydoli gan y casgliad poblogaidd o straeon a olygwyd gan Matt Brown ac Eloise Williams.

Stori a ddywedir drwy BSL (Iaith Arwyddion Prydain), Saesneg a Chymraeg. Mae The Mab yn gynhyrchiad newydd cyffrous i’r holl deulu ei fwynhau.

Mae gan bob perfformiad hygyrchedd creadigol integredig, gan gynnwys BSL integredig, Sain Ddisgrifiad a Chapsiynau Creadigol

Mae The Mab yn gynhyrchiad gan Theatr Taking Flight, Canolfan Celfyddydau a Theatr Glan yr Afon, a Theatrau Sir Gâr.

Ariennir y cynhyrchiad hwn gan Gronfa Cynyrchiadau Mawr Cyngor Celfyddydau Cymru ac Ymddiriedolaeth Elusenol Colwinston.

Dydd Mercher 3 Mawrth
Dydd Iau 4 Mawrth
10.30am a 1.30pm

Theatr Bryn Terfel

Safonol: £15
Dros 60: £13
O dan 18: £13

YSGOLION: £10 (gyda athro am ddim gyda pob 10 plentyn)

BSL integredig, capsiynau a sain ddisgrifiad
Canllaw oed: 7+